S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pencampwr Campau Clwb: prawf i gystadleuwr Gemau'r Gymanwlad ar Faes yr Eisteddfod

05 Awst 2014

 Bydd sêr chwaraeon Cymru yn cael eu profi ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr wrth i S4C gynnal digwyddiad i gyflwyno Clwb, y rhaglen chwaraeon newydd ar gyfer prynhawn Sul.

Gyda'r digwyddiad i ddechrau am 10.00 fore Gwener, 8 Awst, bydd y sêr chwaraeon a rhai o gyflwynwyr S4C yn taclo cyfres o dasgau i brofi ffitrwydd a gwybodaeth.

Yn eu plith mae Lee Williams, un o dîm Rygbi Saith Bob Ochr Cymru sydd newydd ddychwelyd o gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nglasgow.

Yn ei erbyn bydd y seiclwr proffesiynol Gruff Lewis o Aberystwyth, fu'n sylwebu ar raglenni Seiclo S4C o'r Le Tour De France yn ddiweddar; a'r pencampwr ralïo Osian Pryce o Fachynlleth.

Gyda nhw bydd dau o S4C: cyflwynydd Clwb Dylan Ebenezer, a gohebydd Sgorio Nicky John.

Bydd y cyfan yn dechrau gyda sesiwn i gynhesu'r cyhyrau tu allan i Bafiliwn S4C am 10.00 fore Gwener, 8 Awst, cyn y bydd y criw yn cael eu tywys i wynebu pum dasg gorfforol:

• Ras Seiclo yn erbyn amser (ar feic llonydd) - Pafiliwn S4C

• Ras Rhedeg 100 medr – Yr Ardal Chwaraeon

• Ras Car Rali (gêm gyfrifiadur ddynwared) – Pafiliwn S4C

• Her Rygbi'r Scarlets – Yr Ardal Chwaraeon

• Her Bêl-droed cic o'r smotyn – Yr Ardal Chwaraeon

Yn gosod y tasgau mae Owain Gwynedd, cyflwynydd Stwnsh a dyfarnwr rygbi rhan amser, ac ar ôl gorffen, a chael cyfle i ddal eu gwynt, am 1.00 o'r gloch bydd y criw yn ymgynnull ym Mhafiliwn S4C ar gyfer yr her anoddaf: cwestiynau cyflym am eu camp unigol mewn un munud.

Er mwyn profi ei fod e'n gymwys ar gyfer swydd cyflwynydd Clwb, bydd Dylan Ebenezer yn ateb cwestiynau eang – rygbi, pêl-droed, seiclo, ralїo a moduro, rhedeg, athletau a phob math o gampau eraill - i adlewyrchu'r amrywiaeth fydd yn cael sylw ar Clwb.

Yn dilyn yr holi a'r herio, bydd cyfle i gael blas o'r hyn sydd i ddod pan fydd Clwb yn agor ei drysau ar ddydd Sul, 7 Medi, gyda dangosiad cyntaf o'r promo hyrwyddo.

Ac yn glo ar y miri, mi fydd canlyniad yr ornest yn cael ei gyhoeddi. Tybed pwy fydd yn cael ei arwisgo'n Bencampwr Campau Clwb?

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?