S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiad i S4C yn Oscars y rhaglenni dogfen

30 Gorffennaf 2014

 Mae rhaglen ddogfen Gwirionedd y Galon: Dr John Davies wedi ei henwebu ar restr hir gwobrau Grierson, sy’n cydnabod rhaglenni dogfen arloesol.

Mae gwobrau Grierson yn cael eu cyfri fel Oscars y rhaglenni dogfen, ac yn ei 42 blwyddyn o fodolaeth. Mae Gwirionedd y Galon: Dr John Davies wedi ei henwebu yng nghategori'r rhaglen gelf orau. Caiff y rhestr fer ei llunio ym mis Medi, gyda’r seremoni yn digwydd yn neuadd y Frenhines Elizabeth, Llundain ar 3 Tachwedd.

Mae’r ddogfen rymus Gwirionedd y Galon: Dr John Davies, yn fywgraffiad o un o’n haneswyr pwysicaf ni fel cenedl. Wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 75 mlwydd oed, mae Dr John Davies yn edrych nôl ar ei fywyd, gan roi cipolwg ar ei gymeriad amlochrog. Dilynwn Dr John Davies am chwe diwrnod, o Grangetown, Caerdydd, i Dreorci yn y Rhondda ac yn i’w fwthyn yng nghefn gwlad Ceredigion.

Roedd Lorraine Heggessey, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Grierson yn canmol safon uchel y gystadleuaeth; “Mae gennym flwyddyn arbennig o gryf eleni gyda phob categori yn llawn dop gydag amrywiaeth o raglenni pwerus, effeithiol a chofiadwy.”

Cwmni Cynhyrchu Telesgop o Abertawe, gynhyrchodd Gwirionedd y Galon: Dr John Davies, ac meddai’r cynhyrchydd, Dyfrig Davies:

"Dw i'n hynod o falch dros y tîm fu'n gweithio mor galed ar y ffilm, o'r comisiynu, paratoi, saethu, cyfarwyddo a golygu, ac yn gweld y wobr fel cydnabyddiaeth o fawredd Dr John Davies fel hanesydd ac fel person. Mae derbyn y gydnabyddiaeth yn deimlad braf. "

Nid dyma’r tro cyntaf i S4C dderbyn clod tu hwnt i Gymru am raglen ddogfen. Yn Hydref y llynedd gwobrwyd y fedal aur i’r ffilm ddogfen, Fy Chwaer a Fi, yn New York Festivals Award am y cynhyrchiad sy'n rhoi sylw i achosion dynol.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C:

“Dyma bortread cain a chofiadwy o un o haneswyr amlycaf Cymru, Dr John Davies. Mae’r ffaith ei fod wedi cydnabod trwy gyrraedd rhestr hir fer gwobrau Grierson yn tystio i safon y cynhyrchiad. Mae hefyd yn ganlyniad i weledigaeth y cyfarwyddwr Dylan Richards, ac yn dangos be fedrwn wneud yma yng Nghymru er gwaethaf gostyngiad yn ein cyllideb. Rydym yn dal i gynhyrchu rhaglenni gyda’r gorau trwy Brydain.’

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?