S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglen S4C yn llwyddo i gael cofeb er cof am Gwen John

06 Awst 2014

Bydd bywyd yr artist enwog Gwen John yn cael ei goffáu gyda chofeb arbennig ger ei gorffwysfa olaf, a ddarganfuwyd yn sgil rhaglen ddogfen a wnaed i S4C yn gynharach eleni.

Ers i'r rhaglen gael ei dangos fel rhan o gyfres Mamwlad, a gyflwynir gan Ffion Hague, mae'r awdurdodau yn Dieppe, Ffrainc wedi cadarnhau y bydd plac yn cael ei osod er cof am Gwen ym mynwent Dieppe lle mae hi wedi ei chladdu.

Roedd Gwen John yn chwaer i'r artist Augustus John ac yn gariad i'r cerflunydd Auguste Rodin. Mae gwybodaeth helaeth ar gael am ei bywyd, ond roedd ei marwolaeth, a’i man gorffwys olaf wedi bod yn ddirgelwch tan i raglen S4C gael ei darlledu ym mis Chwefror eleni (http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=886).

Wrth ymchwilio ar gyfer cyfres Mamwlad S4C - cyfres sy’n edrych ar ferched arloesol o hanes Cymru - llwyddodd cwmni cynhyrchu Tinopolis, gyda chymorth gornith Gwen John sef Sara John, i gadarnhau lleoliad ei gorffwysfa am y tro cyntaf ym mynwent Dieppe Janval yng ngogledd Ffrainc.

Yn dilyn y darllediad dechreuodd Cwmni Cynhyrchu Tinopolis gynnal trafodaethau gyda'r awdurdodau lleol yn Dieppe sydd bellach wedi cymeradwyo'r cais i osod plac yn gofeb wrth fan gorffwys yr artist o Ddinbych y Pysgod.

Mae'r trefnwyr nawr yn ceisio pennu dyddiad ar gyfer gosod y plac fydd yn coffáu cyfraniad pwysig y Gymraes i gelf Ewrop.

"Ry'n ni'n hynod o falch o glywed y bydd plac yn cael ei osod yn Dieppe er cof am Gwen John wrth ei gorffwysfan olaf," meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C. "Ry'n ni wastad yn ceisio comisiynu rhaglenni bydd yn adlonni ac yn addysgu, ac mae meddwl bod y datblygiad hanesyddol, pwysig hwn wedi digwydd diolch i un o raglenni S4C yn wych. Mae hefyd yn dyst i gwmni Tinopolis. Eu gwaith ymchwil trwyadl a'u hymroddiad di-ffael sy'n gyfrifol am y deyrnged barhaol hon i Gwen John."

Roedd Ffion Hague, cyflwynydd Mamwlad ar S4C, hefyd yn falch iawn o glywed am ddatblygiad diweddaraf y stori ryfeddol.

"Rwy'n hapus iawn y bydd Cymraes mor bwysig nawr yn cael ei choffau yn iawn yn y man ble claddwyd hi." Meddai Ffion Hague. "Roedd Gwen John yn ysbrydoliaeth ac yn ddynes dalentog iawn, a dorrodd ei chwys unigryw ei hun. Mae ei stori hi, a'r stori am ddarganfod ei bed, yn dangos pa mor bwysig yw hi i ni gofio unigolion arloesol, a pha mor hawdd yw hi, hyd yn oed i ferched sy'n enwog ledled y byd fel Gwen, fynd yn angof os nad ydym ni'n trysori eu hanes."

Ychwanegodd Catrin Evans, cynhyrchydd y gyfres, "Fe wnaeth tîm cynhyrchu'r gyfres lawer o waith ymchwil manwl ar gyfer rhaglen ddogfen Mamwlad ar Gwen John ac yn amlwg rydym wrth ein boddau gyda'r datblygiad diweddar hwn. Fydden ni ddim wedi llwyddo heb gymorth Sara John, gornith yr artist, ac ewyllys da'r awdurdodau yn Dieppe. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld y garreg goffáu yn cael ei gosod ac yn hynod falch o fod wedi chwarae rhan o sefydlu etifeddiaeth ar gyfer artist Cymreig mor nodedig."

Bydd S4C yn dilyn y datblygiadau yn Dieppe a bydd rhaglen yn adrodd yr hanes yn cael ei darlledu ar y Sianel yn y dyfodol.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?