S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn dechrau gwasanaeth newydd i roi hyder i bobl siarad Cymraeg

07 Awst 2014

Mae S4C yn lansio gwasanaeth newydd fydd yn helpu rhoi mwy o hyder i bobl siarad Cymraeg.

Bydd gwasanaeth Dal Ati – a fydd yn dechrau ar 28 Medi ar S4C – yn cynnig dwy awr o raglenni difyr bob bore Sul mewn Cymraeg hawdd.

Bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei lansio yn swyddogol ym Maes D, Maes y Dysgwyr, ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau, 7 Awst am 1.00pm.

Mae Dal Ati, pecyn bore newydd o raglenni, yn ffrwyth ymchwil fanwl sy’n dangos bod yna alw mawr am raglenni a fyddai’n rhoi mwy o hyder i ddysgwyr a siaradwyr sy'n llai hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg.

Bydd y gwasanaeth dwy awr, Dal Ati yn cynnig nifer o gyfresi newydd, gan gynnwys Bore Da a Milltir² (Sgwâr), sy'n cynnwys deunydd archif wedi ei ail-bwrpasu, fydd yn cyflwyno amrywiaeth eang o eitemau a straeon mewn Cymraeg hawdd.

Mae S4C yn cynnal ymgyrch hyrwyddo gyda’r neges ganolog, “Mae dy Gymraeg di’n ddigon da! Jest Dal Ati” i gyd-fynd â lansio’r gwasanaeth.

Yn ogystal â’r rhaglenni hyn bydd ap, gwefan newydd a gwasanaethau digidol pellach yn cael eu lansio yn fuan, er mwyn cefnogi'r gwasanaeth ar y sgrin.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys S4C:

“Wrth lunio’r strategaeth newydd ry’n ni wedi bod yn holi’r gynulleidfa, yn ddysgwyr a phobol sy eisiau gwella eu sgiliau iaith. Mae un peth yn amlwg o’r ymchwil – mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn poeni nad yw eu Cymraeg nhw’n ddigon da ac felly mae’n anodd magu hyder i siarad. Wrth awgrymu “Mae dy Gymraeg di’n ddigon da, jest Dal Ati” ’da ni’n annog dysgwyr i roi cynnig arni, i sgwrsio mwy a magu hyder. Ond mae hefyd yn herio’r Cymry sy’n rhugl i gefnogi a helpu eraill i groesi’r bont ‘na, a dod yn siaradwyr hyderus.”

Y llynedd penderfynodd S4C gynnal ymchwil fanwl i anghenion dysgwyr. Gofynnwyd i groesdoriad eang o ddysgwyr, a phobl nad oedd yn hyderus yn eu Cymraeg, ar hyd a lled Cymru, beth oedden nhw eisiau ei weld ar S4C. Arweiniwyd yr ymchwil gan arbenigwr ac ymgynghorydd iaith, Cefin Campbell.

Meddai Cefin Campbell: “Mae’r gwasanaeth hwn ar fore Sul yn ddatblygiad cyffrous iawn a fydd yn hwb enfawr i ddysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg dihyder i wella eu sgiliau iaith. Wrth iddynt ymgyfarwyddo â’r arlwy, y gobaith wedyn yw y cânt ddigon o hyder i wylio mwy o raglenni Cymraeg ar S4C yn ystod yr oriau brig’.

Un o’r rhaglenni newydd o fewn y gwasanaeth Dal Ati fydd Bore Da, rhaglen gylchgrawn yn cael ei chyflwyno gan Elin Llwyd ac Alun Williams. Wedi’i chynhyrchu gan gwmni Tinopolis, Llanelli, bydd y rhaglen yn cynnwys eitemau coginio, teithio, hanes, diwylliant a cherddoriaeth.

Ymhlith y rhaglenni eraill bydd Milltir² (Sgwâr) pan all y gwylwyr ddilyn Nia Parry ar ei thaith o amgylch Cymru yn y gyfres sy’n gynhyrchiad Fflic, rhan o Boom Pictures Cymru ar gyfer S4C. Bydd rhaglenni am gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn hefyd yn cael eu darlledu yn wythnosau cyntaf Dal Ati.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?