S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn darlledu Apêl Argyfwng Gaza

07 Awst 2014

Mi fydd S4C yn darlledu apel ryngwladol am gymorth dyngarol i helpu miloedd o bobl sydd yn dioddef yn sgil-effeithiau’r gwrthdaro yn Gaza.

Heddiw mae S4C wedi ymuno gyda nifer o ddarlledwyr eraill fel BBC, ITV, Channel 4, Sky a Channel Five drwy gefnogi Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.

Mae’r brwydro wedi effeithio ar filoedd o bobl Gaza ac mae nifer o elusennau mwyaf blaenllaw gwledydd Prydain yn ymateb i’r galw mawr am gymorth, ond gyda chymaint heb ddŵr a chymorth iechyd, mae hi’n dasg anodd tu hwnt.

I wneud cyfraniad ar gyfer Apêl Argyfwng Gaza ewch i http://www.dec.org.uk neu galwch y rhif, 0370 60 60 900.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?