S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi amserlen gemau byw’r Clwb Rygbi o’r Guinness Pro 12

14 Awst 2014

Mae gemau byw Clwb Rygbi o’r Guinness Pro 12 ar gyfer tymor 2014-2015 yn dechrau ar S4C gyda thaith i’r Eidal pan fydd gêm Zebre v Gleision yn cael ei darlledu ar Sul, 7 Medi.

Bydd y gêm Guinness Pro 12 (cic gyntaf 4.00) yn fyw o Stadiwm Aprile yn rhan o’r sioe chwaraeon brynhawn Sul newydd Clwb fydd yn cynnwys pecyn tanllyd o gemau byw ac uchafbwyntiau o wahanol chwaraeon.

Bydd Clwb Rygbi ar S4C yn darlledu gemau rygbi yn Gymraeg yn rhad ac am ddim ar deledu daearol o’r Guinness Pro 12 a chystadlaethau clwb eraill ar brynhawniau Sul.

Mae isdeitlau Saesneg a sylwebaeth Saesneg ar gael drwy'r gwasanaeth botwm coch/dewis iaith ar gyfer gemau byw.

Bydd Clwb Rygbi yn darlledu nifer o gemau darbi rhwng y rhanbarthau Cymreig yn yr hydref gan gynnwys Scarlets v Dreigiau ddydd Sul 5 Hydref a Gweilch v Gleision ddydd Sul 12 Hydref.

Yn y flwyddyn newydd bydd S4C yn dangos Scarlets v Gweilch a Gweilch v Dreigiau yn fyw hefyd.

Ymhlith y gemau byw eraill sydd wedi cadarnhau ar gyfer wythnosau cyntaf y tymor mae Gleision v Glasgow ddydd Sul 14 Medi, Gweilch v Glasgow ddydd Sul 21 Medi a Dreigiau v Treviso ddydd Sul 28 Medi. Y gemau i gyd i ddechrau am 4.00pm.

Yn ddiweddar fe wnaeth S4C a BBC Cymru Wales gyhoeddi cytundeb pedair blynedd i ddarlledu gemau Guinness Pro 12 ar deledu daearol.

Mae Clwb Rygbi, cynhyrchiad BBC Cymru Wales ar gyfer S4C, ar fin datgelu tîm cyflwyno newydd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yn ddiweddar fe wnaeth S4C gyhoeddi dyfodiaid Clwb, sioe chwaraeon brynhawn Sul i’w chyflwyno gan Dylan Ebenezer.

Wedi’i chynhyrchu gan gwmni Rondo Media yn fyw o’i stiwdios yng Nghaernarfon, fe fydd yn cynnwys pêl-droed o Uwch Gynghrair Cymru ar y rhan fwyaf o’r penwythnosau, seiclo, ralïo, rhedeg, athletau ymhlith chwaraeon eraill.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon a Ffeithiol S4C;

"Rydym ni’n falch iawn o gael cyhoeddi ein hamserlen rygbi byw ar gyfer wythnosau cynnar y gynghrair Guinness Pro 12. Gan fod y frwydr am leoedd yn y gystadleuaeth cwpan Ewrop wrth galon ymgyrch y gynghrair, bydd pob gêm yn cyfri. Gyda nifer o gemau darbi wedi eu clustnodi ar gyfer y rhaglen Clwb Rygbi ar ei newydd wedd, bydd prynhawniau Sul yn llawn drama ac emosiwn yn ogystal â rygbi o’r safon uchaf."

diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?