S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglenni i ysgogi trafodaeth

03 Medi 2014

Trafodaeth, dadl a hyd yn oed ambell i ffrae! Dyna yn ôl Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, fydd yn cael ei ysgogi gan rai o uchafbwyntiau tymor yr hydref ar S4C.

O faterion cyfoes i ddrama, o chwaraeon i adloniant, bydd rhaglenni'r misoedd nesaf ar S4C yn destun trafod – ac yn darparu cynnwys unigryw na ddylid ei fethu.

• Un o'r rhaglenni hynny fydd yn codi cwestiynau mawr yw cyfres Streic y Glowyr sydd, dros 30 mlynedd yn ddiweddarach, yn bwrw golwg yn ôl ar streic sy’n dal i achosi teimladau cryfion hyd heddiw. Mewn cyfres o dair dogfen sydd i'w darlledu yn ystod mis Medi, bydd Adam Price yn bwrw golwg nôl ar y brotest chwerw yng ngeiriau rhai a fu'n flaenllaw yn yr ymgyrchu. Dros dri degawd yn ddiweddarach, ydyn nhw'n gweld y sefyllfa'n wahanol erbyn hyn? A fyddai rhai wedi gweithredu'n wahanol?

• Wrth gynffon cyfres Adam Price fydd rhaglen ddogfen arall yn cynnig dadl o ochr arall y piced, gyda'r hanesydd Hywel Williams yn ceisio cyflwyno damcaniaethau a safbwyntiau a fydd o bosib yn gwneud i rai gwylwyr ailystyried.

• Mae eleni’n flwyddyn o ddathlu canrif ers geni un o feirdd mwyaf ein cenedl, Dylan Thomas. Yn rhan o dymor o raglenni, bydd yr actor Rhys Ifans yn cyflwyno dogfen sy'n codi cwestiwn am Gymreictod y bardd a'i agwedd tuag at yr iaith Gymraeg. Oedd Dylan yn medru'r iaith? Oedd ganddo falchder tuag ati ac a gafodd hi ddylanwad ar ei waith?

• Mae Dyddiadur Dews yn gomedi tywyll newydd sbon, sy'n dechrau ar nos Wener, 12 Medi. Yn ddiflewyn ar dafod ac yn siŵr o begynnu’r gynulleidfa, fe fydd y gyfres yn dilyn hyn a helynt Dewi Garn Fach - dyn blin a'r byd yn ei erbyn wrth iddo faglu drwy ysgariad blêr gyda'i wraig Lowri. Mae’r gyfres yn cynnwys iaith liwgar, cyfeiriadau rhywiol, defnydd o gyffuriau a noethni.

• Golwg ar y Rhyfel Byd Cyntaf drwy lygaid pobl ifanc ar draws Ewrop yn y gyfres newydd Rhyfel Mawr Trwy Lygaid Ifanc. Yn dechrau ar ddydd Mercher, 10 Medi, mae'r gyfres yn cynnwys storïau am brofiadau pobl ifanc yn byw mewn byd gwahanol iawn i heddiw. Stori bachgen 14 oed aeth i frwydro, yn erbyn ewyllys ei rieni, yw testun y bennod gyntaf, gyda llu o straeon dewr eraill i ddilyn. Digon i'r gwylwyr gnoi cil arno wrth ystyried erchylltra'r profiad o safbwynt rhywun fel nhw'u hunain.

• Bydd rhagor o drafod am effeithiau a straeon y Rhyfel Byd Cyntaf mewn penwythnos arbennig o raglenni. Yn eu plith mae rhaglen am brofiadau'r rhai fu'n gwrthwynebu'r ymladd; hanes sut y bu'r cyfnod yn un chwyldroadol i ferched; a rhaglen am y bardd Hedd Wyn a'r Gadair Ddu.

• A bydd ein rhaglenni materion cyfoes a’n gwasanaeth newyddion ar drywydd y straeon sy'n cael eu trafod ar y pryd - gyda chyfres o raglenni dadlennol am Refferendwm yr Alban ar fin cael eu dangos, a rhaglen fyw yn dilyn cyfri'r pleidleisiau gydol y nos.

Mi fydd tymor yr Hydref ar S4C yn gweld nifer o newidiadau sylfaenol i’r amserlen.

• Clwb - Mae gwasanaeth newydd Clwb yn newid sylweddol i siâp amserlen S4C ar ddydd Sul, yn cynnig prynhawn llawn dop o chwaraeon gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys gemau pêl-droed a rygbi rheolaidd o Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports a chynghrair y Guinness Pro12 yng nghwmni criwiau profiadol Sgorio a Clwb Rygbi. Yn ogystal mae hefyd sylw i seiclo, ralïo, rhedeg, rasys ceffylau o Ffos Las a llu o chwaraeon eraill yn ystod y chwe awr bob dydd Sul.

• Dal Ati - I ddysgwyr, mae gwasanaeth newydd Dal Ati yn rhoi anogaeth i'r cyfeiriad cywir. Yn targedu dysgwyr mwy rhugl, bydd Dal Ati yn fan i ymarfer a gloywi, a slot cyson fore Sul yn fan penodol er mwyn gwylio ar y pryd neu recordio a dal fyny pan mae'n gyfleus i chi. Ac mi fydd yr ap newydd ar gyfer dysgwyr yn ymestyn y gwasanaeth y tu hwnt i'r rhaglenni, gyda modiwlau a chymorth pellach er mwyn helpu i loywi'r sgiliau sgwrsio mewn sefyllfaoedd gwahanol.

• Parthau (neu 'Zonio') - Bydd rhaglenni o feysydd tebyg yn cael eu hamserlenni ar yr un noson gan geisio creu teimlad cyfarwydd a sefydlog i wylwyr o bob diddordeb. Mae'r strwythur cychwynnol yn cynnwys rhaglenni hamdden ar nos Iau: Becws, cyfres goginio gyda Beca Lyne-Pirkis, a ddaeth i enwogrwydd fel cystadleuydd ar The Great British Bake Off; a Bethan Gwanas a Russell Jones yn dychwelyd gydag ail gyfres o Tyfu Pobl, yn dilyn ac yn annog unigolion a grwpiau ym Motwnnog, Porthmadog, Dinbych a Rhuthun i dyfu llysiau am y tro cyntaf.

• Un slot sydd wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd ar S4C yw drama o safon uchel nos Sul. Yn ystod tymor yr hydref, y ddrama newydd sbon honno fydd Cara FI. Wedi ei gosod yn Sir Benfro, mae Cara FI yn ddrama am ffermwyr sy'n chwilio am gariad drwy hysbysebu eu hunain ar boteli llaeth. Drama am gariad, sy'n dipyn o hwyl, ond hefyd stori am gymuned sy'n brwydo am ei dyfodol, i gadw pobl ifanc yn eu cynefin.

• Mae’r penwythnosau yn rhoi pwyslais ar adloniant. Nos Wener bydd Nigel Owens yn cyflwyno ei sioe banel hwyliog Munud i Fynd, a chawn olwg unigryw ar deledu, ffilmiau, radio, gemau a thu hwnt yn Sam ar y Sgrin. I ddilyn ar y nos Wener, mae Dyddiadur Dews, ac ar nos Sadwrn mae Llwyfan; cyfres adloniant newydd sbon gydag Aled Hall yn cyflwyno cantorion, dawnswyr, corau ac offerynwyr - yn enwau cyfarwydd a thalentau newydd.

Felly nid dadleuol a thrwm fydd popeth yn yr amserlen. Bydd digon o hwyl i'w gael yn rhan o'r arlwy adloniant a hefyd wrth i ni ddathlu pen-blwydd Pobol y Cwm yn 40 oed ym mis Hydref. Cyn hynny mae hefyd digwyddiad arbennig ar 14 Medi gyda dangosiad Cymraeg cyntaf o ffilm Gruff Rhys, I Grombil Cyfandir Pell: American Interior, sydd eisoes wedi derbyn canmoliaeth eang.

Wrth lansio tymor yr hydref ar wasanaethau S4C, meddai'r Cyfarwyddwr Cynnwys Dafydd Rhys:

"Mae'r hydref ar S4C yn argoeli i fod yn dymor cryf iawn o raglenni. Rydym am gyflwyno amserlen sy'n ysgogi trafod ymysg gwylwyr, drwy fynnu gofyn y cwestiynau dadleuol, a pheidio ofni mentro gyda chynnwys heriol.

"Y tu hwnt i raglenni ar deledu, mae'r arlwy yn wasanaeth eang sydd ar gael mewn nifer o ddulliau gwahanol. 'Ar deledu, ar-lein, ar alw – Eich Dewis Chi' dyna ein neges, sy'n atgyfnerthu bod modd mynd at gynnwys S4C, yn ei amrywiol ffurf, drwy nifer o ddulliau gwahanol, ar unrhyw adeg.

"Mae'n haws nag erioed i bobl o bob cwr o Brydain gyrraedd ein rhaglenni a'n gwasanaethau ac rwy'n falch iawn o ansawdd yr arlwy sydd o'n blaenau'r tymor hwn. Mae'n glod i dalent y sector gynhyrchu annibynnol, y BBC Cymru Wales ac ITV Cymru Wales, yn ogystal â chomisiynwyr a staff gweithgar S4C."

Cadwch lygad ar wefan s4c.co.uk neu lif cyfryngau cymdeithasol facebook.com/s4c.co.uk ac @s4c ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf am raglenni a chyfresi'r tymor.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?