S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Clwb Rygbi yn croesawu Gareth Charles i’r tim

05 Medi 2014

Mae Clwb Rygbi yn dychwelyd ar gyfer tymor newydd y Pro12 gydag enw newydd, slot newydd a sylwebydd newydd, wrth i Gareth Charles ymuno â’r tîm cyflwyno.

Mae Gareth Charles eisoes yn gyfarwydd i gefnogwyr rygbi fel rhan o dîm cyflwyno ystod o raglenni ar BBC Cymru Wales a bydd yn awr yn dod â chyffro’r gemau yn Gymraeg i Clwb Rygbi.

Bydd cyfraniad Gareth i’r tîm yn un o nifer o newidiadau i’r rhaglen eleni, mewn slot newydd am 3.45pm ar brynhawn Sul fel rhan o raglen Clwb ar S4C.

Bydd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o chwaraeon byw ac uchafbwyntiau, gan gynnwys rygbi a phêl droed.

Fe fydd Gareth Charles yn ymuno a thîm sy’n cynnwys y prif gyflwynydd Gareth Roberts, cyn gapten Cymru Gwyn Jones a’r gohebydd Dot Davies, ymhlith cyfranwyr eraill.

Dywedodd Gareth Charles: “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â Clwb Rygbi am y tymor newydd fel sylwebydd. Mae’r Pro12 yn edrych yn gryfach nag erioed a bydd yn gyffrous i weld sut mae’r timau rhanbarthol yn perfformio eleni.”

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Dwi’n hynod falch bod Gareth yn ymuno â thîm y Clwb Rygbi fel prif sylwebydd. Gyda’i brofiad, hygrededd a’r ddawn fel darlledwr, fe fydd yn gaffaeliad heb ei ail i wasanaeth S4C.”

BBC Cymru Wales sy’n cynhyrchu Clwb Rygbi ar S4C ac mae Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru yn falch bod sylwebydd mor grefftus yn ymuno â’r tim.

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru: ‘Rydyn ni’n falch iawn fod Gareth Charles yn ymuno gyda thîm cyflwyno Clwb Rygbi. Mae’n sylwebydd profiadol ac awdurdodol a dwi’n sicr y bydd y gwylwyr yn mwynhau gwrando arno yn sylwebu yn y Gymraeg ar S4C.

Yn ddiweddar, fe wnaeth S4C a BBC Cymru Wales gyhoeddi cytundeb pedair blynedd i ddarlledu gemau o’r Pro12 ar deledu daearol.

Gyda chynghrair y Pro12 yn ymddangos fel un o’r mwyaf cystadleuol yn ei hanes, mae BBC Cymru Wales a S4C yn cynnig yr arlwy ehangaf posib i ddilynwyr rygbi.

Bydd Clwb Rygbi yn cael ei darlledu ar S4C ar brynhawn Sul gyda gemau yn dechrau am 4pm.

Ar nos Lun fe fydd Clwb Rygbi yn dangos gêm Sky o brynhawn dydd Sadwrn yn ei chyfanrwydd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?