S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

150-0! Wrecsam yn dathlu pen-blwydd ar raglen Clwb ar S4C

10 Hydref 2014

Bydd S4C yn dathlu pen-blwydd clwb pêl-droed hynaf Cymru ar ei sioe chwaraeon Clwb brynhawn Sul, 12 Hydref.

Bydd gan y rhaglen Clwb eitem arbennig am 12.50pm yn bwrw golwg ar hanes clwb Wrecsam ers ei sefydlu ym 1864.

Fe fydd y rhaglen hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau’r gêm yng nghynghrair y Vanarama Conference ar y Cae Ras rhwng Wrecsam a Grimsby, y tîm wnaethon nhw guro i godi Tlws yr FA y llynedd.

Ymhlith y cyfranwyr fydd rhai o sêr mwyaf y clwb dros y degawdau diwethaf - Dai Davies, Joey Jones, Wayne Phillips a Dixie McNeil - sydd rhyngddyn nhw wedi chwarae i’r clwb fwy nag 1200 o weithiau.

Byddan nhw’n edrych yn ôl ar hanes y clwb yng nghwpanau Ewrop, Cwpan Cymru, Cwpan yr FA ac yn fwy diweddar, y frwydr i oroesi a phenderfyniad y dilynwyr i brynu’r clwb.

Fe fydd un o ffans mwyaf y clwb, Geraint Lovgreen yn perfformio can deyrnged i’w glwb ar y sioe.

Mae Clwb yn dechrau am 12.30pm a hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau Uwch Gynghrair Cymru, ras seiclo Paris-Tours Classic o Ffrainc, rygbi Pro 12 a rasio ceffylau yn fyw o Ffos Las.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?