S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Bale a gweddill La Liga i'w gweld ar S4C

05 Medi 2014

Bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau o gynghrair La Liga yn Sbaen ynghyd â rhoi sylw i Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports yn rhan o arlwy newydd Sgorio ar nos Lun am 6.05pm.

Morgan Jones fydd yn cyflwyno rhaglen 25 munud o uchafbwyntiau i'w darlledu ar amser newydd yn gynharach yn y nos.

A bydd uchafbwyntiau La Liga hefyd i'w gweld yn rhan o wasanaeth Clwb, rhaglen chwaraeon newydd S4C ar brynhawniau Sul.

Bydd Clwb yn rhoi sylw hefyd i La Liga a thair wythnos gyntaf Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports yn rhaglen gyntaf Clwb ar brynhawn Sul 7 Medi, o 12.30 ymlaen.

Bydd y Clwb cyntaf yn cynnwys gêm fyw Y Rhyl v Aberystwyth yn Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports, gyda'r gic gyntaf am 1.00pm.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C,

"Mae S4C yn falch o gyhoeddi ein bod ni wedi diogelu hawliau i ddangos uchafbwyntiau La Liga am dymor arall. Gyda Gareth Bale yn dechrau ar ei ail dymor yn y gynghrair gyda Real Madrid, mae diddordeb mawr gan wylwyr yng Nghymru ac ar draws DU i ddilyn y diweddaraf o Primera Sbaen.

"Mae'r rhaglen uchafbwyntiau, ynghyd â'r gemau byw ar brynhawniau Sul, yn adlewyrchu ymroddiad y sianel i'r gamp, ac yn gosod pêl-droed yng nghanol yr amserlen."

Diwedd

NODIADAU I'R GOLYGYDD:

Ni fydd y rhaglen Sgorio ar ddydd Lun ar gael i'w gwylio ar alw oherwydd telerau'r cytundeb hawliau gyda chynghrair La Liga. Bydd Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports ar gael ar wefan Sgorio, s4c.co.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?