S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Naw enwebiad i Y Gwyll wrth i ffuglen a ffeithiol S4C serennu yn rhestr enwebiadau BAFTA Cymru 2014

05 Medi 2014

 Mae rhaglenni a chynyrchiadau S4C wedi ei henwebu am 39 o wobrau yn rhestr enwebiadau BAFTA Cymru 2014.

Ar flaen y gad mae Y Gwyll/Hinterland gyda naw enwebiad - y nifer uchaf ar y rhestr eleni. Yn un o brif gyfresi S4C y llynedd, mae'r ddrama dditectif wedi dal dychymyg gwylwyr yng Nghymru, Prydain a thu hwnt yn dilyn ei darllediad cyntaf ar S4C yn yr hydref 2013.

Yn cynhyrchiad gan Fiction Factory mewn cydweithrediad ag S4C, Tinopolis, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C ac All3Media International Ltd, mae’r ddrama wedi derbyn clod yn rhyngwladol wedi iddi gael ei gwerthu i nifer o wledydd tramor a nawr mae hi wedi ei henwebu am wobr Drama Deledu orau BAFTA Cymru 2014, ochr yn ochr â chyfresi mawr eraill, Stella (Sky) a Sherlock (BBC).

Mae Richard Harrington wedi ei enwebu am wobr Actor Gorau ym mhrif rôl DCI Tom Mathias, a gwobr Actores Orau i Mali Harries yn rôl DI Marred Rhys.

Mae'r cyfarwyddwr Marc Evans wedi ei enwebu am ei waith ar stori gyntaf y gyfres o bedair ac mae Jeff Murphy, awdur y bedwaredd stori, wedi ei enwebu am Awdur Gorau. Mae cydnabyddiaeth hefyd i Ffotograffiaeth a Goleuo (Richard Stoddart); Sain (Tim Cynhyrchu); a Dylunio Gwisgoedd (Ffion Elinor).

Actorion dramâu S4C sydd wedi hawlio pob enwebiad am yr Actores Orau: Rhian Blythe a Siw Hughes am eu rhannau yn Gwaith/Cartref (Fiction Factory) gan gwblhau'r drindod o enwebiadau gyda Mali Harries.

O'r tri enwebiad am yr Actor Gorau, mae dau i actorion S4C wrth i Matthew Gravelle hefyd dderbyn enwebiad am rôl Pat yn 35 Diwrnod.

Gyda'i gilydd mae 35 Diwrnod (Teledu Apollo) wedi derbyn pum enwebiad yn cynnwys Awduron Gorau i Siwan Jones a Wil Roberts, a Chyfarwyddwr Ffuglen i Gareth Bryn. Mae enwebiad i'r Golygydd, Dafydd Hunt, ac enwebiad Ffotograffiaeth a Goleuo i Huw Talfryn Walters.

Mae dramâu nodweddiadol eraill y flwyddyn hefyd wedi eu henwebu, yn cynnwys Ffilm Nodwedd / Teledu i Y Syrcas (Ffati Ffilms) ynghyd ag enwebiad i Tomos Pearce am Dylunio Cynhyrchiad. Mae Heulwen Evans wedi ei henwebu am Goluro a Gwallt y ddrama sengl Reit Tu ôl i Ti (Tarian); a'r ddrama fer Fi a Miss World yn y categori Ffurf Fer ac Animeiddio (It's My Shout).

Y tu hwnt i'r ffuglen, mae dogfennau a chyfresi ffeithiol a materion cyfoes S4C yn amlwg iawn yn y rhestr. Rhaglenni S4C sydd wedi hawlio pob enwebiad yn y categori Cyfarwyddwr Ffeithiol a'r categori Dogfen Sengl hefyd.

Yn eu plith mae dwy ddogfen ddirdynnol am ddau gawr ein cenedl, gydag enwebiad yn cydnabod gwaith cyfarwyddwyr Gwirionedd y Galon: Dr John Davies, Dylan Wyn Richards (Teledu Telesgop) a Merêd, Guto Williams (Cwmni Da). Mae Gwennan Mair hefyd wedi ei henwebu yn y categori Cyfarwyddwr Ffeithiol am ei gwaith ar Taith Fawr y Dyn Bach (Cwmni Da).

Yn ogystal ag enwebiad am wobr Cyfres Ffeithiol mae cyflwynydd Taith Fawr y Dyn Bach, James Lusted hefyd wedi ei enwebu am Wobr Torri Drwodd, ynghyd ag Elin Jones am ddogfen Cofio Senghennydd (Tinopolis) gyda'r rhaglen honno hefyd wedi ei henwebu am glod arbennig Gwobr Gwyn Alf Williams.

Y tri enwebiad yn y categori Dogfen Sengl yw Darwin, y Cymro a'r Cynllwyn (Teledu Telesgop); O'r Galon - Yr Hardys: Un Dydd ar y Tro (Rondo); Gwirionedd y Galon: Dr John Davies. Mae Merêd hefyd wedi ei chynnwys y categori Golygu (Sion Aron), ynghyd â 35 Diwrnod (Dafydd Hunt) ac Y Gwyll (Mali Evans)

Ac mae tri enwebiad hefyd i raglenni Materion Cyfoes. Clod i Geraint Evans a thîm materion cyfoes ITV Cymru am ddau rifyn dirdynnol o Y Byd ar Bedwar: Byw Heb April a Trychineb y Teiffŵn. Mae tîm cynhyrchu BBC Cymru hefyd wedi eu henwebu am y gyfres Taro Naw.

Cerddoriaeth ac Adloniant yw'r categori arall, gydag enwebiad i Dim Byd (Cwmni Da); yn y categori Rhaglen Blant mae dau enwebiad: #Fi (Boom Pictures Production) a Nidini (Griffilms). A thimau darpariaeth rygbi BBC Cymru sy'n cael sylw yn y categori Rhaglen Chwaraeon a Darllediadau Allanol Byw gyda chyfres Y Clwb Rygbi a rhaglen Cymru: Pencampwyr y Chwe Gwlad 2013.

Hefyd ymhlith y rhestr o enwebiadau BAFTA Cymru mae dwy wobr i ffilm Gruff Rhys, American Interior. Bydd y ffilm yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar deledu ar nos Sul 14 Medi pan fydd y fersiwn Gymraeg I Grombil Cyfandir Pell: American Interior yn cael ei dangos ar S4C.

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Bu'r flwyddyn ddiwethaf yn gyfnod prysur i S4C o ran drama gyda rhes o gynyrchiadau rhagorol yn cynnwys 35 Diwrnod, Gwaith/Cartref, Y Syrcas a Reit Tu ôl i Ti. Heb os, Y Gwyll oedd y fwyaf o blith dramâu S4C. Yn afaelgar, trawiadol a gwahanol i gyfresi diweddar y sianel, derbyniodd ymateb ffafriol iawn gan ein gwylwyr. Ond hefyd, fe lwyddodd i godi proffil S4C a'r Gymraeg yn genedlaethol a rhyngwladol.

"Roedd 35 Diwrnod hefyd yn ddrama wreiddiol gyda stori afaelgar oedd yn ein cadw ni ar flaenau'n seddi. Gyda chyfres nesaf 35 Diwrnod a rhagor o Y Gwyll yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, mae'r gwobrau yma yn deyrnged i waith rhagorol yr awduron, actorion a'r ddau dîm cynhyrchu yn Teledu Apollo a Fiction Factory.

"Beth sy'n amlwg hefyd wrth edrych ar y rhestr eleni yw'r nifer o ddogfennau ffeithiol a materion cyfoes S4C sydd yn eu plith. Rydw i'n falch iawn o weld cynifer o enwebiadau i'r sianel eto eleni. Roeddwn i'n hyderus fod ein hamserlen y flwyddyn hon yn llawn cynnwys cryf iawn, ac rwy'n hynod falch fod hyn wedi ei gydnabod gan BAFTA Cymru."

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?