S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhys Ifans yn lansio ffilm Dan y Wenallt yng Ngŵyl Rhif 6

05 Medi 2014

 Y penwythnos hwn bydd yr actor Rhys Ifans yn lansio ffilm newydd Kevin Allen, Dan y Wenallt yng Ngŵyl Rhif 6.

Dyma fersiwn ffilm newydd y cyfarwyddwr Kevin Allen (Y Syrcas, Twin Town) o ddrama boblogaidd Dylan Thomas, sydd wedi ei ffilmio cefn wrth gefn yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dyma'r prosiect diweddaraf i gael ei ffilmio gefn wrth gefn gan S4C ers y gyfres dditectif Y Gwyll/Hinterland.

Bydd y fersiwn Gymraeg, Dan y Wenallt, yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C ar nos Sadwrn 27 Rhagfyr am 9.00pm.

Mae'r ffilm sy'n serennu'r actor enwog Rhys Ifans wedi ei hysgrifennu gan Murray Lachlan Young, Michael Breen a Kevin Allen, a'r Prifardd T. James Jones sy'n gyfrifol am eiriau'r fersiwn Gymraeg.

Gŵyl Rhif 6 yw'r lle i fod i gael yr olwg gyntaf ar Dan y Wenallt. Gŵyl gelfyddydol a gynhelir ym Mhortmeirion yng ngogledd Cymru yw Gŵyl Rhif 6, ac yma bydd ardal arbennig sy'n talu teyrnged i Dylan Thomas.

Gydol y penwythnos bydd darlleniadau a pherfformiadau gan yr enwog Rhys Ifans a Charlotte Church yn cael eu cynnal yma, a gallwch hefyd bori ym Mws Llyfrau Dylans, sef siop lyfrau symudol, ymweld â charafán Dan y Wenallt, a mwynhau adloniant y gofod perfformio. Bydd celfi sydd wedi eu defnyddio yn ffilm Dan y Wenallt hefyd i'w gweld yn yr ardal, gan gynnwys lluniau o'r set, lein ddillad a goleuadau bach sydd yn siŵr o'ch hudo i fyd hyfryd a swrrealaidd y ffilm.

Hefyd bydd sgrin yno yn dangos clip o fersiwn Saesneg o'r ffilm, Under Milk Wood, fydd yn cael ei rhyddhau yn y sinemâu yn y flwyddyn newydd.

Felly os ydych chi yn mynychu'r Ŵyl cofiwch alw draw er mwyn camu i fyd rhyfeddol Dylan Thomas, a'r ffilm fydd i'w gweld gyntaf ar S4C.

Dan y Wenallt, nos Sadwrn 27 Rhagfyr am 9.00pm ar S4C.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?