S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C toujours! Y sianel i ddangos uchafbwyntiau 14 uchaf ar Clwb

05 Medi 2014

Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau pencampwriaeth Top 14 Ffrainc ar Clwb, gwasanaeth chwaraeon brynhawn Sul newydd y sianel.

Mae rhai o chwaraewyr gorau Cymru yn chwarae ym mhencampwriaeth Top 14, a bydd rhai o ornestau wythnosol Jamie Roberts, Leigh Halfpenny, Mike Phillips, Dan Lydiate, Jonathan Davies, Luke Charteris ymhlith eraill nawr i'w mwynhau ar S4C.

Mae uchafbwyntiau Top 14 yn dechrau ddydd Sul, 7 Medi yn rhan o arlwy chwe awr Clwb, sy'n dechrau am 12:30.

Yn y rhaglen gyntaf bydd sylw i'r gemau Top 14 sy'n cael eu chwarae ddydd Sadwrn 6 Medi.

Bydd yr uchafbwyntiau fel arfer yn cael eu darlledu cyn neu ar ôl gêm fyw Clwb Rygbi; yr wythnos hon gallwch fwynhau gêm Guinness Pro 12 rhwng Zebre a'r Gleision (gyda'r rhaglen yn dechrau am 3:45, cic gyntaf am 4:00).

Yr wythnos hon bydd uchafbwyntiau Pencampwriaeth Top 14 yn dangos nifer o sêr carfan Cymru wrth i’r Clwb ddangos Clermont v Racing Metro a Toulon v Bordeaux Begles.

Bydd yr uchafbwyntiau yn cael eu cynhyrchu gan Sunset + Vine Cymru ac SMS ar gyfer S4C. Cynhyrchir Clwb gan Rondo Media ar gyfer S4C.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?