S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Noson Gwylwyr S4C yn Rhuthun

11 Medi 2014

Gydag amserlen raglenni S4C ar gyfer tymor yr hydref 2014 yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddar, a nifer o newidiadau sylfaenol i'r amserlen yn dod i rym, mae hi'n gyfnod cyffrous i'r Sianel.

Yn eu plith mae Clwb, gwasanaeth chwaraeon newydd sy'n cynnwys rhaglen fyw ar gyfer prynhawniau Sul gyda gemau pêl-droed a rygbi byw ynghyd ag amrywiaeth eang o gampau eraill a straeon chwaraeon mwya'r wythnos.

Ond beth yw eich barn chi am raglenni S4C a’r gwasanaethau mae’n eu cynnig?

Bydd Noson Gwylwyr S4C yn cael ei chynnal nos Fercher, 17 Medi am 7:00 yng Nghlwb Rygbi Rhuthun.

Fe fydd gwylwyr yn cael cyfle i fynegi eu barn am raglenni a gwasanaethau S4C yn ogystal â dweud eu dweud am yr hyn maent yn dymuno gweld ar y Sianel yn y dyfodol.

Bydd cyfle i rannu sylwadau gyda Phrif Weithredwr S4C, Ian Jones, a Chadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones.

Ynghyd â lansio'r gwasanaeth chwaraeon newydd Clwb, gwelwyd nifer o gyfresi newydd ar S4C yn ddiweddar. Yn eu plith mae'r gyfres goginio newydd Becws gyda Beca Lyne-Pirkis o The Great British Bake Off; sioe adloniant newydd ar nos Sadwrn, Llwyfan; ac ail gyfres o Tyfu Pobl sy'n dilyn disgyblion Ysgol Gynradd Twm o’r Nant, Dinbych ac Ysgol Uwchradd Brynhyfryd, Rhuthun, ymhlith eraill, wrth iddynt geisio tyfu llysiau am y tro cyntaf.

Mae’r Noson Gwylwyr yn gyfle i chi rannu’ch barn am y rhaglenni hynny, neu unrhyw elfennau eraill o wasanaeth S4C.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod y noson ac fe ddarperir system ddolen sain ac offer cyfieithu.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141 neu gwifren@s4c.co.uk

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?