S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Gwyll yn dychwelyd ar Ddydd Calan

20 Medi 2014

Mae cyfres dditectif Y Gwyll/Hinterland yn dychwelyd i'r sgrin gyda phennod unigryw arbennig ar S4C ar 1 Ionawr.

Bu cyfres gyntaf Y Gwyll/Hinterland, oedd yn dilyn DCI Tom Mathias (Richard Harrington) a'i dîm wrth iddyn nhw archwilio troseddau tywyll yn nhref glan y môr Aberystwyth, yn hynod boblogaidd gyda gwylwyr wrth iddi gael ei darlledu ar S4C, BBC Cymru Wales a BBC Four.

Yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf bydd y ddrama dditectif yn dychwelyd i S4C gyda rhaglen arbennig ddwy awr ar Ddydd Calan.

Yn niweddglo'r gyfres gyntaf gwelsom DCI Tom Mathias - cyn dditectif gyda Heddlu'r Met yn Llundain sy'n byw o ddydd i ddydd dan gysgod tywyll ei orffennol - yn cael ei wthio at y dibyn.

Gan fethu cadw at y ffin denau rhwng ei ddyletswyddau proffesiynol a'i deimladau personol daeth Mathias i fod yng nghanol yr achos dan sylw. Gyda'i gariad yn farw a gwaed ar ei ddwylo, daeth y gyfres i ddiwedd dramatig, gan adael marc cwestiwn mawr am ddyfodol Mathias.

Mae'r cynhyrchwyr wedi cyhoeddi y bydd Richard Harrington yn dychwelyd fel Mathias yn y bennod, ond ble mae e wedi bod, a sut mae pethau wedi newid ers iddo fynd?

Byddwch yn barod am densiwn yn y rhengoedd, a dirgelwch newydd sy'n siŵr o godi blew eich gwar.

Darlledwyd y gyfres gyntaf ar S4C yn gyntaf y llynedd, cyn cael ei dangos gan ddarlledwyr eraill ledled Ewrop.

Yn ddiweddar mae'r gyfres, sydd wedi ei chreu gan Ed Talfan ac Ed Thomas ac wedi ei chynhyrchu gan gwmni Fiction Factory yng Nghaerdydd, wedi ei phrynu gan wasanaeth VOD NETFLIX, a bydd ar gael trwy eu gwasanaethau yn yr UDA, Canada a Sgandinafia.

"Rydym yn falch o gyhoeddi bod y cast a'r criw yn ôl yn ffilmio yng Ngheredigion ar gyfer y rhaglen arbennig fydd ymlaen ddydd Calan," meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C.

"Daw hyn ar ôl misoedd ar fisoedd o weithio'n galed i ddatblygu straeon gafaelgar a dyrys ar gyfer y penodau nesaf. Gall y gwylwyr edrych ymlaen at ragor o straeon cyffrous fydd yn gwneud iddyn nhw guddio tu ôl i'w clustogau, a hefyd i ddod i wybod mwy am ein prif gymeriadau a'u gorffennol dirgel.”

Caiff y rhaglen arbennig Ddydd Calan ei dangos ar S4C gyntaf, gydag isdeitlau Saesneg ar gael.

"Yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf rydym yn edrych ymlaen at gydweithio eto gyda'n partneriaid yn S4C, BBC Cymru Wales ac All3Media International i baratoi'r bennod nesaf o Y Gwyll/Hinterland," meddai'r cynhyrchydd Gethin Scourfield.

"Mae'r cast a'r criw talentog wedi bod yn ffilmio ers pythefnos. Mae'r awyrgylch ar y set yn wych ac mae yna lawer o gyffro am y bennod nesaf a'r gyfres nesaf sydd i ddilyn."

Os na welsoch chi'r gyfres gyntaf gallwch ei gwylio nawr ar DVD Y Gwyll/Hinterland a gafodd ei rhyddhau gan Arrow Films ym mis Mai eleni.

Mae cyfres Y Gwyll/Hinterland wedi ei chynhyrchu gan Fiction Factory ar gyfer y darlledwyr S4C a BBC Cymru Wales. Mae'r gyfres wedi ei chynhyrchu mewn cyd-weithrediad â Tinopolis ac All3Media International.

Y Gwyll / Hinterland, Nos Iau 1 Ionawr am 9.00pm ar S4C. Isdeitlau Saesneg ar gael.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?