S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Penwythnos o raglenni i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf

22 Medi 2014

Mae S4C yn darlledu penwythnos o raglenni ar 27 a 28 Medi sy'n bwrw golwg o'r newydd ar brofiadau pobl yng Nghymru ac ar feysydd y gad dramor yn ystod Rhyfel Mawr 1914-18.

Mae'r penwythnos yn cynnwys tair rhaglen newydd danlli sy'n codi’r clawr ar brofiadau pobl gyffredin ac adnabyddus o Gymru a'r byd ac yn dathlu eu cyfraniad.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol a Chwaraeon S4C, "Mae'r rhaglenni yma i gyd yn rhoi llais a llwyfan i bobl nad ydynt bob amser wedi cael lle teilwng yn y llyfrau hanes. Milwyr cyffredin, merched, gwrthwynebwyr cydwybodol – profiadau personol grymus sy’n deledu cryf a gafaelgar ar gyfer cynulleidfaoedd S4C heddiw."

Mae’r penwythnos yn dechrau gyda’r rhaglen ddogfen ddadlennol Pwy sy'n gwisgo'r trowsus? (cynhyrchiad Apollo, rhan o Boom Pictures Cymru) sy’n edrych ar hanes pedair merch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd y portreadau'n dangos sut y gwnaeth agweddau, hawliau a ffasiynau merched newid o ganlyniad i’r rhyfel.

Mae'n cynnwys portread o’r nyrs Jessie Hughes o Dreffynnon a aeth i weithio ym Manceinion, hanes Olwen Leyshon a fu’n gweithio yn ffatri arfau Pen-bre ger Llanelli, hanes Edith Haines, a oedd ymhlith y merched cyntaf i gael swydd clippie ar y bysiau yn Abertawe a phrofiadau Olwen Carey Evans o Gricieth, a aeth i Ffrainc gyda gwirfoddolwyr y V.A.D.s (Voluntary Aid Attachment).

Mae'r penwythnos o raglenni am y Rhyfel Mawr yn parhau nos Sul, 28 Medi gyda rhaglen ddogfen ddirdynnol Gwrthwynebwyr y Rhyfel Mawr (Apollo, rhan o Boom Pictures Cymru) am hanes pedwar gwrthwynebydd cydwybodol o Gymru.

Cawn bortreadau o’r gwas fferm o Laneilian, Ynys Môn, Percy Ogwen Jones a darlun o fywyd yr heddychwr George M Ll Davies a gafodd ei garcharu am bregethu yn erbyn y rhyfel. Clywn hanes y bardd o Alltwen, Cwmtawe, Gwenallt, aeth i guddio gyda pherthnasau iddo yn Rhydcymerau a Llandeilo i drio osgoi cael ei garcharu ac Ithel Davies a wrthododd wneud unrhyw waith, yn ystod ei garchariad, a fyddai’n helpu’r rhyfel.

Rhaglen olaf y penwythnos o raglenni bydd y ffilm ddogfen Tir Neb (cyd-gynhyrchiad Cwmni Da a Looksfilm).

I lawer, 'tir neb' – y llain o dir diffaith rhwng y ffosydd yn Ffrainc a Fflandrys – yw'r symbol fwyaf ingol o'r gwastraff bywyd a fu yn ystod y rhyfel.

Mae Tir Neb yn ffilm ddogfen delynegol a thrasig, sy’n adrodd hanes y Rhyfel Mawr, o’i ddechrau i’w ddiwedd, yng ngeiriau’r bobl a ddioddefodd ar ddwy ochr tir neb.

Mae'n seiliedig ar lythyrau o'r cyfnod gan Almaenwyr, Ffrancwyr, ac Americanwyr - ynghyd â Chymry, fel Huw T. Edwards, Hughie Griffith a T. Salisbury Jones.

Pwy sy’n gwisgo’r trowsus?

Sadwrn 27 Medi 8.30, S4C

Cynhyrchiad Apollo, rhan o Boom Pictures Cymru ar gyfer S4C

Gwrthwynebwyr y Rhyfel Mawr

Sul 28 Medi 7.30, S4C

Cynhyrchiad Apollo, rhan o Boom Pictures Cymru ar gyfer S4C

Tir Neb

Sul 28 Medi 9.00, S4C

Cyd-gynhyrchiad Cwmni Da a Looksfilm

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?