S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Heneiddio'n hapus – S4C yn hybu neges Age Cymru i fod yn Bositif am Oed

25 Medi 2014

Sut beth yw byw am ganrif? Goroesi dau Ryfel Byd a gweld 19 Prif Weinidog gwahanol wrth y llyw? Sut mae person dros eu cant oed yn teimlo am eu lle yn y byd heddiw?

Mewn rhaglen ddogfen arbennig iawn, Cymry'r Cant ar S4C, bydd tair menyw eithriadol sydd dros eu cant oed yn rhannu eu profiadau a'u doethineb. Mae'n rhan o wythnos o raglenni ar brynhawn Llun i Gwener ar S4C sy'n cyd-fynd ag Wythnos Positif am Oed Age Cymru (28 Medi hyd 5 Hydref).

Bydd y rhaglen Cymry'r Cant, sy'n gynhyrchiad gan Fflic (rhan o Boom Pictures Cymru), yn cael ei dangos am 1.05 brynhawn Mercher, 1 Hydref, ac ynddi cawn stori Maria Heward, sy'n 104 oed ac yn dod o Landudno. Mae hi'n dal i fyw gartre' ar ei phen ei hun ac yn glanhau’r tŷ ac yn coginio'n ddyddiol, ac yn mynd am dro i’r dref bob dydd Sadwrn.

Hefyd yn y rhaglen mae Lilian Owen sy'n 101 oed. Mae hi’n byw mewn cartref yn Llandudno. Mae hi’n gallu darllen heb sbectol, mae ei chlyw yn glir fel cloch a’i hathroniaeth ydy bod rhaid diolch am bob dydd. Y drydedd yn y rhaglen yw'r awdures Mari Ellis sy'n 101 ac yn byw gyda’i mab Rolant yn eu cartref yn Aberystwyth.

Treuliodd cynhyrchydd y rhaglen, Nia Parry, amser yn eu cwmni wrth ffilmio'r rhaglen, sy'n adrodd eu straeon yn raddol – yn cyd-gamu â threigl amser bywydau'r menywod.

"Pan ofynnais i'r tair beth oedd cyfrinach byw yn hir, yr ateb oedd 'jest dal i fynd' a gwneud be fedri di," meddai Nia Parry, fu'n cydweithio â'r cyfarwyddwr Gruff Davies a'r Uwch Gynhyrchydd Gwenda Griffith ar y rhaglen.

"Dydyn nhw ddim yn meddwl am eu hoedran ac yn bennaf oll maen nhw'n hapus. Dydi hynny ddim i ddweud eu bod nhw wedi cael bywydau hawdd, ond dydyn nhw nhw ddim ymdrybaeddu mewn hunan dosturi. Y neges bwysig ydi i fod yn ddiolchgar am beth sydd gen ti a dechrau pob diwrnod gyda gwên. Roedd yn fraint treulio amser efo'r tair, a gallai ddweud fy mod i wedi gwneud tri ffrind arbennig."

Mae'r agwedd yma yn gweddu â neges Age Cymru yn yr ymgyrch Wythnos Positif am Oed sy'n pwysleisio agweddau positif heneiddio a dathlu cyfraniad pobl hŷn yn ein cymunedau.

Am 1.05 bob prynhawn, rhwng 29 Medi a 3 Hydref ar S4C, bydd cyfle i weld rhaglenni sy'n cyd-fynd â'r neges hon. Yn ogystal â Cymry'r Cant, bydd pum rhaglen o'r archif yn cael eu dangos a bydd Prynhawn Da a Heno hefyd yn trafod agweddau o ymgyrch Wythnos Positif am Oed.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C, "Rydym yn falch o gefnogi ymgyrch Wythnos Positif am Oed Age Cymru, ac mae'n bleser cynnig cyfle i fwynhau straeon y bobl eithriadol sy'n cael sylw yn y rhaglenni yma. Mae pob un stori sy'n cael ei adrodd yn profi nad oes rhaid i heneiddio fod yn rwystr i unrhyw un."

Meddai Ian Thomas, Prif Weithredwr Age Cymru, "Da ni’n ddiolchgar iawn i S4C am ddarlledu’r gyfres hon o raglenni yn ystod Wythnos Positif am Oed – ein dathliad o bob peth sydd yn bositif am oedran a heneiddio. Dyma gyfres o straeon am unigolion sydd yn atgyfnerthu'r neges y dylem ddathlu oedran a heneiddio yn hytrach nac eu gweld fel rhywbeth sydd yn cyfyngu ar ein gallu i fyw bywydau llawn a bodlon.”

Diwedd

Nodiadau

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Positif am Oed: www.agecymru.org.uk/agepositive

Amserlen S4C ar gyfer yr wythnos – ar gael i'w gwylio ar alw ar s4c.co.uk/clic am 35 diwrnod:

75: Byth Rhy Hen, Dydd Llun 29 Medi 1.05 (Isdeitlau Saesneg)

Rhaglen a ddarlledwyd gyntaf yn 2013. Ffermwr 75 oed yw Jeremy Trumper, o Gwm Pennant ger Porthmadog. Mae ganddo obsesiwn ag un o ryfeddodau’r byd dringo - Tŵr y Diafol yn Wyoming, UDA. Yng nghwmni ei gyfaill, y mynyddwr Eric Jones, mae'r ffermwr bytholwyrdd yn ceisio gwireddu breuddwyd fawr gan brofi "nad wyt ti fyth yn rhy hen i wireddu breuddwydion!"

Yr Hen a Ŵyr, Dydd Llun 29 Medi 1.30 (Isdeitlau Saesneg)

Rhaglen a ddarlledwyd gyntaf yn 2013. Mae pob un ohonom yn heneiddio. Bydd Olwen o Bwllheli, 80 oed, Ifanwy o Borthmadog, 90 oed a Gwladys o Gaergybi sy’n 106 yn rhannu eu hatgofion ac yn trafod y themâu oesol o gadw’n ifanc, o fynd yn hen ac o wynebu marwolaeth. Tair dynes wahanol iawn, arbennig iawn, sy’n dangos nad oes angen ofni'r ffaith bod amser yn hedfan.

O'r Galon: Frank Letch, Dydd Mawrth 30 Medi 1.05 (Isdeitlau Cymraeg a Saesneg)

Rhaglen a ddarlledwyd gyntaf yn 2010. Dogfen arbennig am Frank Letch a aned heb freichiau. Serch hynny, mae e wedi byw bywyd llawn a chyfoethog. Yn 65 oed, penodwyd Frank yn Faer tref Crediton ger Exeter. Awn ar daith gyda Frank yn ôl i ardal Y Bala lle’r oedd yn byw a gweithio yn ystod y 1970au.

Cymry'r Cant, Dydd Mercher 1 Hydref 1.05 (Isdeitlau Saesneg)

Rhaglen newydd sy'n bwrw golwg yn ôl dros fywydau tair menyw sydd dros eu cant oed gan holi beth ydy’r gyfrinach y tu ôl i fywyd hir a hapus. Mae Maria Heward yn 104 oed ac yn dod o Landudno. Mae hi'n dal i fyw gartre' ar ei phen ei hun ac yn glanhau’r tŷ ac yn coginio'n ddyddiol, ac yn mynd am dro i’r dref bob dydd Sadwrn. Mae ei chyfaill, Lilian Owen yn 101 ac mae hi’n byw mewn cartref yn Llandudno. Mae hi’n gallu darllen heb sbectol, mae ei chlyw yn glir fel cloch a’i hathroniaeth ydy bod rhaid diolch am bob dydd. Mae’r awdures Mari Ellis yn 101 ac yn byw gyda’i mab Rolant yn eu cartref yn Aberystwyth.

Portreadau – Kitty a Lizzie, Dydd Iau 2 Hydref 1.05 (Isdeitlau Saesneg)

Rhaglen a ddarlledwyd gyntaf yn 1985. Cyfle i fwrw golwg yn ôl dros fywydau Kittie a Lizzie Roberts. Does fawr wedi newid yn eu bywydau bob dydd dros y blynyddoedd, er daeth newidiadau i gymdeithas Penmachno a'r cylch. Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i droedio yn ôl i'r gorffennol i brofi hamdden a thawelwch bywyd y ddwy chwaer ar eu fferm, Tŷ Newydd, ger Penmachno.

Cefn Gwlad: Olwen Griffiths, Dydd Gwener 3 Hydref 1.05 (Isdeitlau Cymraeg a Saesneg)

Rhaglen a ddarlledwyd gyntaf yn 2003. Dai Jones, Llanilar, sy'n ymweld ag Olwen Griffiths, sy'n rhedeg busnes gwneud a gosod cerrig beddi, ym Mhwllheli. Er bod Olwen wedi cyrraedd oed yr addewid, mae'n parhau i wneud y gwaith corfforol caled. Bydd Olwen yn ein harwain i lecynnau hyfryd ym Mhen Llŷn, megis Aberdaron, Trefor a Nefyn, yn ystod ei diwrnod gwaith.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?