S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiad i S4C yng ngwobrau CDN

13 Hydref 2014

Mae S4C wedi'i enwebu am wobrau CDN, (Creative Diversity Network) am y rhaglen ddogfen Fy Chwaer a Fi, mae'r wobr yn cydnabod rhaglenni sy'n portreadu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae'r rhaglen ddogfen bwerus Fy Chwaer a Fi wedi ei henwebu am y portread orau sy'n torri tir newydd ynghylch grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, neu sy'n gadael ei effaith orau ar y pwnc.

Tanysgrifwyr y cylchgrawn Broadcast fydd yn pleidleisio am enillydd y wobr, a chyhoeddir yr enillydd ddydd Mawrth, 11 Tachwedd 2014 yn Llundain.

Cynhyrchwyd Fy Chwaer a Fi , gan Bulb Films, sydd yn ran o Gwmni Boom Pictures ar ran S4C. Mae'r rhaglen afaelgar hon yn sôn am hanes Kirstie a Catherine Fields, efeilliaid 18 oed o Lanelli, a'r unig bobl yn y byd sydd â'r cyflwr 'Fields Condition'. Mae'r afiechyd wedi ei enwi ar eu hôl nhw. Oherwydd y cyflwr creulon hwn maen nhw bellach yn dibynnu ar gadeiriau olwyn ac wedi eu gadael yn fud. Yn cyfathrebu trwy gyfrwng peiriannau llefaru electronig am y tro cyntaf, dyma eu stori ddirdynnol yn eu geiriau didwyll eu hunain.

Dywed Comisiynydd Cynnwys Llion Iwan,

"Rydym yn falch o’r enwebiad sydd yn cydnabod stori a oedd yn fodd i agor y drws ar y salwch sydd yn wynebu unigolion a’u teluoedd, yn aml yn ddistaw bach tu nôl i ddrysau caeedig."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?