S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C am ddarparu isdeitlau Saesneg ar Sgorio

16 Hydref 2014

Bydd isdeitlau Saesneg yn cael eu darparu ar gyfer y rhaglen Sgorio yn gyfan o hyn ymlaen, cyhoeddodd S4C.

Mae'r Sianel eisoes yn darparu trac sain Saesneg ar gyfer darllediadau gemau byw Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports ar y rhaglen bêl-droed Sgorio sy’n rhan o’r sioe chwaraeon ddydd Sul, Clwb.

Ond yn awr ar ôl ymgynghori gyda gwylwyr S4C, Cymdeithas Pêl-droed Cymru a chlybiau pêl-droed Cymru, mae S4C yn darparu is-deitlau Saesneg, nid yn unig ar gyfer y gêm ei hun, ond ar gyfer yr holl raglen.

Gall gwylwyr fwynhau’r gwasanaeth isdeitlo Saesneg ar Sgorio ddydd Sul, 19 Hydref pan fydd Nicky John a chyfranwyr fel cyn ymosodwr Cymru Malcolm Allen yn cyflwyno’r gêm Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports, Y Bala v Port Talbot (rhaglen yn dechrau, 1.15pm, cic gyntaf 1.30pm).

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gael isdeitlau Saesneg neu drac sain Saesneg ar S4C, ewch i wefan S4C, s4c.co.uk neu cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C, gwifren@s4c.co.uk neu 0870 600 4141.

Meddai Llion Iwan, Golygydd Cynnwys Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C, "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd isdeitlau Saesneg ar y rhaglen Sgorio. Mae'n siŵr o gynyddu mwynhad y gwylwyr o'r rhaglen bêl-droed brynhawn Sul a denu gwylwyr newydd hefyd gobeithio.”

Ychwanegodd Gwyn Derfel, Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports, “Mae hwn yn gyhoeddiad sylweddol yng nghyd-destun darlledu Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports. Rydym yn sicr y caiff y newydd ei groesawu’n fawr gan nifer sylweddol o gefnogwyr ac rydym yn gobeithio y bydd mwy o gefnogwyr newydd i’n Cynghrair Cenedlaethol yn cael eu creu o’r herwydd.”

Nodiadau i'r golygydd:

Ni fydd rhaglen uchafbwyntiau Sgorio ar nos Lun, sy'n cynnwys uchafbwyntiau gemau La Liga, Sbaen yn ogystal â gemau Uwch Gynghrair Corbett Sports Cymru, yn darparu isdeitlau Saesneg am nad yw’r hawliau darlledu yn caniatáu hynny.

Mae S4C ar gael ar: Sky 104, Freeview 4, Virgin TV 166 ac, Freesat 104 yng Nghymru. Yng ngweddill y DU, mae ar gael ar Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166. Gall gwylwyr ledled y DU hefyd wylio S4C yn fyw ar s4c.co.uk/clic ac ar tvcatchup.com, yn ogystal ag ar YouView.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?