S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Arwyddo cytundeb i symud pencadlys S4C i Gaerfyrddin

20 Hydref 2014

Mae S4C a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi arwyddo cytundeb fframwaith sy’n cadarnhau’n ffurfiol eu bod yn bwrw ymlaen ar y cyd gyda’r cynllun i sefydlu pencadlys newydd i’r sianel yng Nghaerfyrddin.

Fe benderfynodd Awdurdod y Sianel yn ôl ym mis Mawrth i dderbyn cais y Brifysgol i adleoli'r pencadlys i Gaerfyrddin yn amodol ar gyrraedd cytundeb cyfreithiol.

Ddydd Llun, 20 Hydref am 6.00pm yn Adeilad Addysgu a Dysgu’r Brifysgol yng Nghaerfyrddin, fe wnaeth Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, a’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, arwyddo cytundeb fframwaith. Mae’r cytundeb yn creu’r strwythurau ffurfiol fydd yn arwain at waith y prosiect; yn cytuno’r amserlen lefel uchel er mwyn i’r pencadlys fod yn weithredol erbyn 2018; ac yn ymgorffori’r amodau craidd gwreiddiol oedd gan S4C, sef creu buddiannau ieithyddol, diwylliannol ac economaidd i’r ardal.

Wrth arwyddo’r cytundeb fframwaith, meddai Huw Jones: “Mae arwyddo’r Cytundeb Fframwaith hwn gyda’r Brifysgol yn garreg filltir bwysig iawn. Dyma gadarnhau y byddwn yn bwrw ymlaen gyda’r cynllun uchelgeisiol hwn yn dilyn y datganiad o fwriad a gyhoeddwyd rai misoedd yn ôl.

“Ein bwriad wrth gychwyn ar y broses hon oedd cynllunio i greu dyfodol llewyrchus i’n gwasanaeth, tra ar yr un pryd yn sbarduno datblygiadau ieithyddol a diwylliannol, ynghyd â budd economaidd, ym mro ein pencadlys newydd.

“Mae’r cytundeb hwn yn seiliedig ar yr blaenoriaethau hynny, ac mae Awdurdod S4C yn edrych ymlaen yn eiddgar iawn at weld y cynlluniau’n troi’n ffaith dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.”

Ychwanegodd Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol “Mae arwyddo’r cytundeb fframwaith yn dod â ni gam ymhellach at wireddu’r weledigaeth o sefydlu pencadlys S4C yng Nghaerfyrddin. Edrychwn ymlaen at gydweithio gydag Awdurdod S4C a’n partneriaid eraill er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Sianel ynghyd â’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Y mae’r datblygiad hwn yn golygu adeiladu adeilad pwrpasol ac eiconig a fydd yn gartref i S4C ac yn gatalydd ar gyfer hyrwyddo creadigrwydd ar draws y rhanbarth ac yn genedlaethol. Mae’r weledigaeth yn un uchelgeisiol sy’n cynnig cyfle i greu endid unigryw a chyffrous a gaiff effaith gadarnhaol ar economi, cymunedau a’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y De Orllewin. Daw hefyd ag ystod o arbenigeddau at ei gilydd i gynnig hyfforddiant i do newydd y diwydiant ac i greu micro-fusnesau a chyfleoedd gwaith yn y rhanbarth sy’n gysylltiedig â’r cynnyrch creadigol a diwylliannol a fydd yn nodweddu’r datblygiad”.

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Cyflwynodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant achos cryf iawn i S4C ynghylch symud i gartref newydd yng Nghaerfyrddin, ac rydym yn falch dros ben fod y Brifysgol bellach wedi arwyddo’r Cytundeb Fframwaith gydag S4C i wireddu hynny.

“Bydd y symud hwn yn rhoi bod i ryw 150 o swyddi ac yn hybu'r economi leol. Yn ogystal mae'n hwb anferth i'r Gymraeg gan y bydd yn sicrhau bod swyddi o safon ar gael i siaradwyr Cymraeg.

“Rydym wrth ein boddau â’r cam pwysig hwn tuag at ddod ag S4C i Gaerfyrddin.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Mair Stephens, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am y Gymraeg: “Mae'r cyhoeddiad ynghylch arwyddo’r Cytundeb Fframwaith er mwyn symud S4C yma i Gaerfyrddin yn newyddion gwych.

“Carai'r Cyngor Sir longyfarch S4C a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar ddod i’r cytundeb hwn. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos â nhw dros y blynyddoedd nesaf.”

Y cam nesaf wedi arwyddo’r cytundeb fframwaith, yw sefydlu Bwrdd Prosiect, gyda chynrychiolwyr o’r Brifysgol ac S4C, a fydd yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect.

D I W E D D

Manylion pellach:

Steve Thomas, Pennaeth y Wasg a Gwybodaeth, S4C: 02920 741451 / 07764 636393

Eleri Beynon, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: 01267 676790 / 07968249335

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?