S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn Sicrhau Hawliau Uchafbwyntiau'r Cwpanau Ewrop Newydd

17 Hydref 2014

 Mae S4C wedi sicrhau'r hawliau i ddangos uchafbwyntiau Cwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop a Chwpan Her Rygbi Ewrop.

S4C fydd y darlledwr daearol cyntaf yng ngwledydd y Deyrnas Unedig i ddarlledu uchafbwyntiau estynedig o'r cystadlaethau Ewropeaidd newydd yn rhad ac am ddim i wylwyr, drwy gytundeb gyda threfnwyr y gystadleuaeth EPRC a'r partneriaid darlledu BT Sport a Sky Sports.

Mae'r rhaglenni’n dechrau nos Sul, 19 Hydref am 9.50 yn y sioe Rygbi: Cwpan Pencampwyr Ewrop. Bydd y rhaglen Clwb ar brynhawn Sul hefyd yn dangos peth uchafbwyntiau.

Bydd yr ail raglen ar nos Lun, 20 Hydref am 10.00 a bydd rhaglenni pellach wedyn y penwythnos nesaf.

Bydd y rhaglenni ar gael ar-lein ac ar alw ar s4c.co.uk am 30 diwrnod ar ôl y darllediad gwreiddiol.

Mae S4C wedi cyhoeddi’r tîm cyflwyno ar gyfer y rhaglenni fydd yn cynnwys y cyflwynydd Gareth Roberts a chyn gapten Cymru, Gwyn Jones ymhlith eraill. Cwmnïau teledu SMS a Sunset & Vine Cymru fydd yn cynhyrchu’r rhaglenni.

Dywedodd Paul McNaughton, aelod o Fwrdd a Phwyllgor Gweithredol EPCR, "Mae'n newyddion da fod S4C yn parhau i gefnogi rygbi Ewropeaidd drwy sicrhau'r hawliau ar gyfer y pencampwriaethau EPCR newydd.

"Mae'r rhaglenni uchafbwyntiau hyn yn cydweddu â'r ddarpariaeth fyw helaeth a'r rhaglenni nodwedd y gall dilynwyr rygbi fwynhau eu gwylio ar BT Sport a Sky Sports. Mae cadarnhau platform darlledu yn sicrhau fod y pencampwriaethau yma yn cael y sylw haeddiannol a bod cefnogwyr yn gallu dilyn eu clybiau yn Ewrop."

Meddai Llion Iwan, Golygydd Cynnwys Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C, "Rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu darparu uchafbwyntiau daearol yn rhad ac am ddim ar gyfer ein dwy brif gystadleuaeth rygbi Ewropeaidd. Mae'r ffaith ein bod yn gallu sicrhau hawliau o'r fath mewn marchnad mor gystadleuol yn adlewyrchu ein safle fel darlledwr chwaraeon. Mae'n ychwanegiad gwerthfawr i’n portffolio rygbi ar deledu ac ar y we ar bob lefel. Rydym yn diolch i drefnwyr y gystadleuaeth am fod a’r weledigaeth i weld bod yna le i rygbi Ewropeaidd ar lwyfan rhad ac am ddim yn yr iaith Gymraeg."

Mae prif gystadleuaeth rygbi Ewrop, Cwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop, erbyn hyn yn cynnwys 20 o dimau, gyda saith clwb o Uwch Gynghrair Aviva, chwech o Top 14 Ffrainc a saith o’r Guinness Pro12.

Mae'r ail gystadleuaeth, Cwpan Her Rygbi Ewrop, hefyd yn cynnwys 20 o dimau mewn pum grŵp a dau ranbarth Cymreig, y Gleision a'r Dreigiau.

Bydd yr uchafbwyntiau ar S4C yn cynnwys uchafbwyntiau nifer o gemau o’r ddwy gystadleuaeth.

Bydd gemau rhanbarthau Cymru fel arfer ymysg y gemau mwyaf amlwg ar y rhaglen.

Yng Nghwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop fydd y Gweilch yn croesawu Treviso yng Ngrŵp 5 ar ddydd Sul 19 Hydref, tra bydd y Scarlets yn teithio i gartre’ pencampwyr presennol Ewrop, Toulon yng Ngrŵp 3.

Bydd yr arlwy’n parhau y penwythnos nesaf gyda Gweilch yn teithio i Northampton a'r Scarlets yn croesawu Caerlyr.

Yng Nghwpan Her Rygbi Ewrop, bydd y Gleision yn herio Grenoble yng Ngrŵp 1 ddydd Sadwrn, 18 Hydref, gyda'r Dreigiau ym Mharis i daclo Stade Francais.

Mae'r arlwy’n parhau y penwythnos nesaf gyda Rovigo v Gleision a'r Dreigiau v Newcastle, heb anghofio bod tîm Cymreig Uwch Gynghrair Lloegr, Cymry Llundain hefyd yn y gystadleuaeth.

Bydd gemau grŵp pellach yn y ddwy gystadleuaeth yn cael ei chwarae ym mis Rhagfyr eleni a mis Ionawr 2015, gyda gemau’r wyth olaf, y rowndiau terfynol a chynderfynol wedi’u hamserlennu ar gyfer y gwanwyn.

Diwedd

Nodiadau i’r golygydd:

Mae S4C yn darlledu gemau rhyngwladol Cymru, y Guinness Pro12, Uwch Gynghrair a Phencampwriaeth Swalec a rygbi’r colegau ymhlith cystadlaethau eraill.

Roedd S4C yn darlledu uchafbwyntiau’r hen gwpanau Ewropeaidd, yr Heineken a’r Amlin.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?