S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiadau ar gyfer S4C yng ngwobrau BAFTA plant

21 Hydref 2014

Mae nifer o raglenni sydd yn rhan o wasanaeth plant meithrin S4C, Cyw, a gwasanaeth plant a phobl ifanc S4C, Stwnsh wedi derbyn enwebiadau yng ngwobrau BAFTA Plant 2014.

 

Cynhelir seremoni BAFTA yn Llundain nos Sul 23 Tachwedd, sydd yn gwobrwyo'r rheiny sy'n flaengar ym maes cyfryngau plant ym Mhrydain.

Mae Cyw wedi ei enwebu am wobr sianel blant y flwyddyn, ynghyd a chategori dysgu i blant, am yr ap Cyw a'r Wyddor.

Mae rhaglen Madron, sydd yn rhan o arlwy gwasanaeth Stwnsh wedi ei enwebu am wobr y rhaglen ryngweithiol orau.

Prosiect prosiect aml-blatfform rhyngweithiol oedd Madron ymddangosodd ar S4C ym mis Mai, oedd yn cyfuno animeiddiad ac apiau. Cynhyrchwyd Madron gan gwmni Glasshead ar ran S4C.

Boom Pictures Cymru sy'n gyfrifol am gynhyrchu dolenni Cyw a nifer o raglenni'r gwasanaeth. Ond mae nifer o gwmnïau annibynnol yn cyfrannu at y cynnwys, gyda chyd-gynhyrchiadau a phryniannau hefyd ymhlith y ddarpariaeth.

Cwmni Cube, sydd â swyddfa yng Nghaerdydd sy'n gyfrifol am elfennau rhyngweithiol rhaglenni Ludus, ap Cyw a'r Wyddor a Madron, y tri rhaglen wedi eu henwebu.

Mae rhaglenni eraill sydd yn ymddangos ar y Sianel wedi eu henwebu am wobrau BAFTA. Mae Bing sy'n perthyn i arlwy Cyw, a rhaglen ryngweithiol Ludus sydd i'w weld ar Stwnsh wedi eu henwebu.

Mae fersiwn Saesneg Ludus wedi ei enwebu yng ngwobr y rhaglen ryngweithiol orau, yn yr un categori a Madron.

Mae animeiddiad Saesneg Bing wedi ei henwebu yng nghategori animeiddiad gorau ar gyfer plant cyn oedran ysgol. Bydd Bing, sy'n sôn am gwningen fechan, yn ymddangos ar S4C yn y flwyddyn newydd. Mae S4C wedi cyfrannu at ariannu'r prosiect.

Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C;

 

"Mae’n bleser clywed y newyddion da am yr holl enwebiadau ‘ma yng ngwobrau Bafta Plant. Mae gwasanaethau Cyw a Stwnsh yn hynod o bwysig i’r gynulleidfa ifanc a hoffwn longyfarch yr holl griwiau cynhyrchu am eu creadigrwydd wrth greu cynnwys gwreiddiol ar gyllidebau tynn."

Mae darparu gwasanaethau plant yn hynod o bwysig i S4C ac mae’n fraint bod y cynnwys unigryw yma yn cael ei gydnabod gan Bafta DU.

Y peth mwya pwysig wrth gwrs ydy cael cynnwys gwreiddiol mae plant yn ei fwynhau ac mae enwebiadau fel hyn yn eisin ar y gacen!"

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?