S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sglein seremoni BAFTA Cymru 2014 ar S4C

22 Hydref 2014

   Gwobrau BAFTA Cymru yw pinacl y flwyddyn ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru; ac eleni bydd modd i wylwyr S4C fwynhau blas o'r noson arbennig hon, sy'n cael ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Mewn rhaglen awr o hyd, am 9.30 nos Sul 26 Hydref – sef yr un noson â'r seremoni wobrwyo ei hun - bydd y rhaglen BAFTA Cymru 2014, sy'n gynhyrchiad gan Rondo Media, yn crynhoi sglein y seremoni ac yn cyfweld â rhai o sêr mwya'r sgrin.

Y gyflwynwraig glam Alex Jones fydd yno ar ein rhan, yn sgwrsio gyda'r gwesteion ac yn barod i longyfarch yr enillwyr wrth iddyn nhw ddod o'r llwyfan gyda'r tlws gwerthfawr yn eu dwylo.

Er mwyn cyd-gyflwyno'r rhaglen gydag Alex, bydd Morgan Jones yn tynnu ei siwt orau o'r cwpwrdd ac yn ein tywys drwy'r categorïau, yr enwebiadau a'r gwobrau wrth iddyn nhw gael eu cyhoeddi.

Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys perfformiad gwefreiddiol gan y seren glasurol Katherine Jenkins, sy'n dechrau'r noson wobrau mewn steil eleni, cyn i'r darlledwr Jason Mohammad, ddechrau ar y dasg bwysig o ddosbarthu'r gwobrau.

Alex Jones, sydd wedi dod i boblogrwydd cenedlaethol fel cyflwynydd The One Show ar BBC One, oedd cyflwynydd noson wobrau BAFTA Cymru 2012, ac mae hi'n falch fod cyfle eleni i rannu'r noson gyda gwylwyr S4C.

Meddai'r gyflwynwraig o Rhydaman, "Mae hon yn noson fawr i'r byd ffilm a theledu, yn gyfle i bobl ddod at i gilydd i ddathlu diwydiant sy'n gymharol fach, mewn cymhariaeth a Phrydain gyfan, ond eto yn ddiwydiant sy'n ffynnu, yn gryf ac yn cynhyrchu lot fawr o dalent ar sgrin a thu ôl y camera.

"Mae'n dda gallu rhannu'r noson gyda gwylwyr a'u tynnu nhw mewn i'r digwyddiad. Falle bydd pobl wedi clywed am y gwobrau a gweld ambell gip o'r carped coch ar y newyddion, ond mae'n dda iddyn nhw weld pa mor bwysig yw ennill gwobr BAFTA Cymru i'r actorion, cynhyrchwyr a'r bobl sy'n gweithio yn y diwydiant."

Meddai Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, "Rydym wrth ein bodd bod S4C yn darlledu’r gwobrau eleni wedi saib o rai blynyddoedd. Mae noson gwobrau BAFTA Cymru o hyd yn achlysur penigamp gyda digon o adloniant a llu o wynebau cyfarwydd o'r byd teledu a ffilm yn dod at ei gilydd i ddathlu’r gorau yn y diwydiant. Gyda Katherine Jenkins yn agor y seremoni eleni mae’n siŵr o fod yn noson ddifyr i wylwyr adref yn ogystal a chynulleidfa Canolfan y Mileniwm."

Mae 28 categori yng ngwobrau BAFTA Cymru, yn amrywio o wobrau i'r actorion gorau a'r cyfresi, rhaglenni neu ffilmiau gorau, i waith cyfarwyddo, cynhyrchu, colur a gwisgoedd.

Ymhlith yr enwebiadau mae 39 i gynnwys S4C, gyda Y Gwyll/Hinterland yn arwain y gad â naw enwebiad. Mae enwebiadau hefyd i ddramâu eraill S4C: 35 Diwrnod, Gwaith/Cartref, Reit Tu Ôl i Ti, Y Syrcas, Fi a Miss World.

Mae nifer o raglenni ffeithiol a materion cyfoes S4C hefyd ar y rhestr: Gwirionedd y Galon: Dr John Davies, Merêd, Taith Fawr y Dyn Bach, Cofio Senghennydd, Darwin, y Cymro a'r Cynllwyn, O'r Galon - Yr Hardys: Un Dydd ar y Tro, Taro Naw, a dwy raglen Y Byd ar Bedwar: Byw Heb April a Trychineb y Teiffŵn.

Yr enwebiadau eraill i S4C yw Dim Byd, #Fi, Nidini, Y Clwb Rygbi, Cymru: Pencampwyr y Chwe Gwlad 2013 a ffilm Gruff Rhys American Interior.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?