S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cynnwys S4C ymhlith prif enillwyr BAFTA Cymru 2014

27 Hydref 2014

   Y Gwyll/Hinterland oedd un o brif enillwyr seremoni BAFTA Cymru 2014, wrth i'r ddrama dditectif gipio tair o'r anrhydeddau.

Derbyniodd cynnwys S4C 11 gwobr BAFTA Cymru 2014 yn y seremoni ar nos Sul 26 Hydref, sy'n dathlu llwyddiannau'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.

Ymhlith y gwobrau fe gyflwynwyd anrhydedd yr Actores Orau i Rhian Blythe am ei rhan fel Grug Matthews yn y gyfres ddrama Gwaith/Cartref (Fiction Factory). A rhoddwyd gwobr Rhaglen Ffeithiol orau i'r ddogfen deimladwy O'r Galon: Yr Hardys: Un Dydd ar y Tro (Rondo).

Y tair gwobr i Y Gwyll oedd yr Awdur Gorau i Jeff Murphy; Cyfarwyddwr Gorau i Marc Evans a gwobr grefft i Richard Stoddard yn y categori Ffotograffiaeth a Goleuo.

Wrth edrych ymlaen at ddangos pennod newydd arbennig Y Gwyll ar S4C ar Ddydd Calan, mae'r sianel yn cynnig cyfle arall i fwynhau'r gyfres gyntaf yn llawn. Bob nos Sul am 10.00, yn dechrau ar 9 Tachwedd, bydd cyfle arall i ddilyn y cyffro, a magu blys am ragor cyn i DCI Tom Mathias a'i dîm ddychwelyd i S4C.

Ddaeth un arall o ddramâu'r sianel, y gyfres lawn tensiwn 35 Diwrnod (Teledu Apollo), hefyd i'r brig gyda gwobr grefft i Dafydd Hunt yn y categori Golygu.

Tîm ITV Cymru oedd yn fuddugol yn y categori Materion Cyfoes, wrth i adroddiad Y Byd ar Bedwar am ddinistr Teiffŵn Haian fynd â hi. Clwb Rygbi, tîm chwaraeon BBC Cymru Wales, oedd yn fuddugol yn y categori Rhaglen Chwaraeon a Darllediad Allanol Byw.

Cyfarwyddwr Gorau BAFTA Cymru 2014 yw Dylan Wyn Richards am ei waith ar y rhaglen ddogfen Gwirionedd y Galon: Dr John Davies (Teledu Telesgop). Yn y categori Cerddoriaeth ac Adloniant y gyfres gomedi Dim Byd (Cwmni Da) aeth a hi, a'r gyfres animeiddiedig Ni Di Ni (Griffilms) oedd y Rhaglen Blant orau.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Rwy'n falch iawn o weld cynnwys S4C yn derbyn yr anrhydeddau hyn. Mae'n gydnabyddiaeth o waith y diwydiannau creadigol yng Nghymru, a'r doniau sy'n bodoli o fewn y sector gynhyrchu annibynnol, BBC Cymru ac ITV Cymru, wrth gynhyrchu cynnwys beiddgar, adloniannol a heriol ar gyfer llwyfannau amrywiol y sianel."

Eleni, roedd cyfle i wylwyr S4C fwynhau blas o noson wobrwyo BAFTA Cymru mewn rhaglen arbennig oedd yn crynhoi'r prif ddigwyddiadau, ynghyd â chyfweliadau arbennig gyda'r sêr a pherfformiad gwefreiddiol y gantores glasurol Katherine Jenkins.

Yn cyflwyno'r rhaglen BAFTA Cymru 2014 roedd Alex Jones a Morgan Jones ac mae modd ei gwylio eto ar-lein ac ar alw ar s4c.co.uk/clic

Diwedd

Nodiadau:

Mae rhestr lawn enillwyr BAFTA Cymru 2014 ar gael yma - http://www.bafta.org/cymru/gwobrau/gwobrau-bafta-yng-nghymru-2014,4398,BA.html

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?