S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle arall i weld cyfres gyntaf Y Gwyll

30 Hydref 2014

Wrth edrych ymlaen at ddangos pennod newydd arbennig Y Gwyll/Hinterland ar S4C ar Ddydd Calan, mae'r sianel yn cynnig cyfle arall i wylio'r gyfres gyntaf yn ei chyfanrwydd.

Bob nos Sul am 10.00, yn dechrau ar 9 Tachwedd, bydd cyfle arall i ddilyn y cyffro, a magu blys am ragor cyn i DCI Tom Mathias a'i dîm ddychwelyd i S4C ar 1 Ionawr 2015.

Mae cyfres ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland, sydd wedi ei chynhyrchu gan Fiction Factory yn dilyn DCI Tom Mathias (Richard Harrington), DI Mared Rhys (Mali Harries), DC Lloyd Elis (Alex Harries), DS Siân Owens (Hannah Daniel) a'u pennaeth, y Prif Uwch-arolygydd Brian Prosser (Aneirin Hughes) wrth iddyn nhw archwilio troseddau tywyll yn nhref glan y môr Aberystwyth.

Bu'r gyfres yn hynod boblogaidd yn sgil ei darllediad gwreiddiol ar S4C, a'r darllediadau diweddarach ar BBC Cymru Wales a BBC Four. Ffilmiwyd y gyfres gefn wrth gefn yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal â fersiwn ddwyieithog.

Mae'r gyfres a ffilmiwyd ar leoliad yng Ngheredigion bellach wedi ei gwerthu i Awstralia (BBC Global), Gwlad yr Iâ (RUV), Yr Iseldiroedd (KRO), Gwlad Belg, Ffrainc (DIZALE), Y Ffindir, Norwy (NRK) a Seland Newydd. Ac fel y cyhoeddwyd yn y papurau cenedlaethol Prydeinig, mae'r gyfres nawr ar gael ar wasanaeth NETFLIX yn yr UDA - yn ogystal â thrwy eu rhwydweithiau yng Nghanada a Sgandinafia.

Mae llawer o ddisgwyl ac edrych ymlaen at raglen arbennig newydd Y Gwyll/Hinterland a gaiff ei darlledu ar S4C am 9.00 ar nos Iau 1 Ionawr 2015. Cyn hynny bydd y gyfres gyntaf ar gael i'w gwylio eto yn ei chyfanrwydd ar S4C o nos Sul 9 Tachwedd, gyda phennod awr bob nos Sul am 10.00, tan yr olaf ar nos Sul 28 Rhagfyr, ar drothwy'r bennod newydd.

Mae'r gwaith ffilmio ar gyfer yr ail gyfres yn parhau yn ardal Ceredigion ar hyn o bryd a bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar S4C yn 2015.

Mae cyfres Y Gwyll/Hinterland wedi ei chynhyrchu gan Fiction Factory ar gyfer y darlledwyr S4C a BBC Cymru Wales. Mae'r gyfres wedi ei chynhyrchu mewn cydweithrediad â Tinopolis ac All3Media International.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?