S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cefnogi Apêl Argyfwng Ebola

30 Hydref 2014

Mi fydd S4C yn darlledu apêl ryngwladol am gymorth dyngarol i helpu miloedd o bobl sydd yn dioddef yn sgil effeithiau lledaeniad y firws Ebola.

Heddiw mae S4C wedi ymuno gyda nifer o ddarlledwyr eraill fel BBC, ITV, Channel 4, Sky a Channel Five drwy gefnogi’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.

Dyma'r tro cyntaf i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) lansio apêl yn sgil effeithiau afiechyd, yn hytrach nag ar gyfer trychineb penodol.

Mae lledaeniad firws Ebola yng Ngorllewin Affrica wedi lladd bron 5000 o bobl ac mae dros 10,000 wedi cael eu heintio. Nid yw'r gwasanaethau iechyd yn gallu ymdopi â ffrwyno'r afiechyd, gyda diffyg offer difrifol a phrinder gweithwyr sy'n gymwys i ymdrin â'r salwch. Yn ogystal â hyn mae diffyg gwybodaeth o fewn cymunedau ynglŷn â sut i atal lledaeniad y clefyd.

Os bydd yr achosion Ebola yn parhau i gynyddu, mae'r system rybuddio newyn byd-eang yn rhagweld y gallai Gorllewin Affrica brofi argyfwng newyn mawr erbyn mis Ionawr.

I gyfrannu at Apêl Argyfwng Ebola ewch i http://www.dec.org.uk neu galwch y rhif, 0370 60 60 900.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?