S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiad i Lowri Morgan yng Ngwobrau Antur Cenedlaethol.

07 Tachwedd 2014

 Mae cyflwynydd adnabyddus S4C, Lowri Morgan wedi ei henwebu yng ngwobrau antur genedlaethol, am ei gwaith yn hyrwyddo antur yn y cyfryngau.

Cynhelir y noson wobrwyo 18 Mawrth 2015 yng Ngwesty'r Grand Central yng Nglasgow.

Mae'r gwobrau antur yn cydnabod y gorau mewn antur ar draws Lloegr, Cymru a'r Alban.

Mae Lowri yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel cyflwynydd Ralio+. Ond mae hi'n gyfarwydd hefyd fel anturiaethwraig o fri, ac mae hi wedi wynebu sawl sialens heriol. Yn 2009 wynebodd antur enfawr wrth iddi hi gystadlu mewn ras ar draws jyngl yr Amazon am 7 diwrnod, ac fe ffilmiwyd y cyfan mewn rhaglen arbennig ar S4C o'r Enw Ras yn Erbyn Amser.

Ac yn 2011 fe wynebodd her enfawr arall wedi iddi hi goncro ras eithafol yr Arctig. Llwyddodd i gwblhau'r ras mewn 174 awr ag wyth munud, gan frwydro yn erbyn tymheredd oer a chreulon yr Arctig. Fe ddarlledodd S4C ei brwydr yn erbyn yr elfennau mewn ail raglen Ras yn Erbyn Amser.

Oherwydd ei gwaith yn hyrwyddo anturiaethau a heriau corfforol, mae Lowri wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei gwaith, dywed Lowri;

"Mae 'n fraint ac yn anrhydedd cael f'enwebu ochr yn ochr â rhai o anturiaethwyr amlyca' Prydain. Dw i'n hynod ddiolchgar ac yn ei gwerthfawrogi'n fawr.

Yn union fel yr oedd cael y cyfle i redeg rhai o rasys ultra anoddaf y byd, mae derbyn cydnabyddiaeth am rywbeth dwi wrth fy modd yn ei wneud - sef cynhyrchu rhaglenni teledu, gwthio ffiniau personol a darganfod rhai newydd - yn fraint fawr.

Ond ni fyddwn wedi llwyddo i gyrraedd yma heb gefnogaeth, cymorth, cred ac ymroddiad y criw cynhyrchu y tu ôl i gyfresi Ras Yn Erbyn Amser a'r tîm yn S4C."

Nodiadau:

Mae Ras yn erbyn amser eisoes wedi ennill gwobr ysbryd yr ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2011.

Enillodd Ras yn Erbyn Amser yr Arctig ddwy wobr yn Bafta Cymru 2011.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?