S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dan y Wenallt i ymddangos mewn sinemâu ar draws Cymru

05 Tachwedd 2014

Bydd addasiad newydd o glasur Dylan Thomas, y ddrama radio Dan y Wenallt yn ymddangos mewn sinemâu ar draws Cymru o 11 Rhagfyr ymlaen.

Mae'r ffilm swrrealaidd, radicalaidd ac erotig Gymraeg yn dod a Kevin Allen a Rhys Ifans ynghyd unwaith eto, dros bymtheg mlynedd ers iddyn nhw ffilmio'r enwog Twin Town. Mae'r cast yn cynnwys nifer o wynebau cyfarwydd Cymreig, dan arweiniad Rhys Ifans fel y Llais Cyntaf a Capten Cat, ochr yn ochr â'r gantores a'r actores Charlotte Church fel Polly Garter.

Caiff y ffilm ei dangos ar S4C am 21:00 ar nos Sadwrn 27 Rhagfyr. Fe wnaeth y Sianel gyd-gyllido'r prosiect mewn cydweithrediad â Ffilm Cymru Wales a Goldfinch Pictures, gyda fFatti fFilms yn cynhyrchu.

Addaswyd y ddrama i'r Gymraeg gan y dramodydd a'r cyn Archdderwydd T. James Jones, a chynhyrchwyd sgript y ffilm gan Murray Lachlan Young, Michael Breen a'r cyfarwyddwr Kevin Allen. Mae Dan Y Wenallt yn archwilio darluniau cyfoethog o benillion breuddwydiol.

"Roeddwn i'n benderfynol o greu trosiad sinematig oedd yn herio'r ddirnadaeth gyffredin, y dylai barddoniaeth aros ym mharth y darllenydd," meddai Kevin Allen, am ei ddehongliad o'r ffilm.

Dyma'r dramateiddied sinematig cyntaf o waith Dylan Thomas ers fersiwn Richard Burton yn 1972. Daw'r ffilm a chwedloniaeth y bardd i'r 21 Ganrif, a hynny ar achlysur ei ganfed pen-blwydd.

Bydd Dan y Wenallt yn cyrraedd y sinemâu ar 11 Rhagfyr yng Nghanolfan Chapter yng Nghaerdydd, ac yn gydamserol mewn sinemâu a chanolfannau celfyddydol eraill ar draws Cymru.

Mae Dan y Wenallt wedi ei ffilmio gefn wrth gefn â fersiwn Saesneg, Under Milk Wood, a chaiff y fersiwn honno ei rhyddhau mewn sinemâu ym Mhrydain yn ystod Gwanwyn 2015.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?