S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Elusen gancr Macmillan yn canmol rhaglen ddogfen S4C am ddangos realiti wedi cancr

11 Tachwedd 2014

Mae elusen Macmillan wedi canmol rhaglen ddogfen fydd yn ymddangos ar S4C, sy'n dangos realiti bywyd i'r rheiny sydd wedi byw ar ôl dioddef o gancr.

Dilynwn daith Meinir Siencyn o'r Wyddgrug yn O'r Galon: Blwyddyn Meinir, cafodd ddiagnosis gancr yn ystod Mai 2014, mewn rhaglen ddogfen i'w darlledu ar S4C nos Iau 13 Tachwedd.

Darlledwyd O'r Galon: Stori Meinir ym mis Rhagfyr y llynedd, a dilynwyd Meinir o ddiwrnod ei diagnosis. Eleni, byddwn yn gweld sut mae Meinir flwyddyn yn ddiweddarach mewn rhaglen ddogfen arbennig arall, O'r Galon: Blwyddyn Meinir.

Mae'r ail raglen, O'r Galon: Blwyddyn Meinir yn fwy personol na'r cyntaf. Y tro hwn bydd Meinir yn lleisio'r rhaglen, a hi hefyd sydd wedi ffilmio'r mwyafrif o'r ddogfen ei hunan.

Darlledwyd O'r Galon: Stori Meinir ar S4C ym mis Tachwedd y llynedd, roedd Meinir yn bwriadu cystadlu mewn ras beicio mynydd lawr allt heriol o'r enw Mega Avalanche yn yr Alpau yn Ffrainc. Yn O’r Galon: Blwyddyn Meinir byddwn yn dilyn Meinir wrth iddi hyfforddi ar gyfer y ras fawr, ac yn ei gweld yn teithio draw i Ffrainc, ond bydd rhaid i wylwyr aros i weld beth oedd y canlyniad.

Profiad gwahanol iawn oedd ffilmio'r rhaglen ddogfen hon yn ôl Meinir, sy'n dweud fod y cancr wedi gadael ei hoel arni. Mae hi'n parhau i fynd am brofion, ac yn ddiweddar mae Ysbyty Gwynedd wedi gofyn iddi ddychwelyd am sgan ychwanegol - rhywbeth sy'n peri pryder iddi hi.

"Mae canser yn massive, ac mae rhywbeth fel 'na yn newid ti," dywed Meinir, sydd bellach yn byw yn Llanberis. "Dydi canser ddim yn rhywbeth sy'n mynd i ffwrdd. Mae pobl eraill yn meddwl achos bod fy ngwallt i nôl, mod i'n iawn. Mae o'n anodd, achos os ydi'r genyn canser gen i mae 'na siawns uchel y daw o nôl. Dw i'n trio cadw'n bositif. Ond dydi pethau byth yn gorffen. Mae pawb arall yn meddwl dyna fo. Ond mae 'na brofion am flynyddoedd. 'Dio byth yn stopio."

Dywed Susan Morris,

“Mae mwy na 120,000 o bobl yn byw gyda sgil effeithiau cancr yng Nghymru, ac erbyn 2030 y gred yw y bydd y ffigwr yn dyblu i 240,000.

“Gyda mwy o bobl yn byw yn hwy wedi cancr mae'r GIG angen rhoi gwell cefnogaeth. I lawer, gorffen y driniaeth gancr yw dechrau'r daith. Bydd rhaglenni fel O'r Galon: Stori Meinir gan S4C yn gymorth i godi ymwybyddiaeth ar gyfer sut all ddiagnosis gancr effeithio'r bobl sydd agosaf atynt.

“Mae gwasanaethau cancr angen newid i roi mwy o gymorth i oroeswyr cancr nawr ac yn y dyfodol. Rydym eisiau i bobl sydd wedi eu heffeithio gan gancr, pobl fel Meinir, i dderbyn cefnogaeth bersonol, sydd yn adnabod eu gofynion personol, ac sydd wedi eu teilwra ar gyfer eu hanghenion.

“Mae nifer sydd yn derbyn, neu wedi gorffen eu triniaeth gancr, angen cefnogaeth i reoli beth all hynny olygu iddynt yn anghenion corfforol, seicolegol a chymdeithasol, ac efallai nad ydynt yn gwybod at bwy i siarad gyda nhw er mwyn mynd i'r afael a hyn. Rydym am wneud yn siŵr nad yw neb yn wynebu canlyniadau cancr ar eu pennau eu hunain."

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am gancr, os yw'n bersonol, gyfaill neu ffrind, gallwch ffonio Llinell Gymorth Macmillan yn rhad ac am ddim ar 0808 808 00 00 neu ewch i www.macmillan.org.uk http://www.macmillan.org.uk

Gwyliwch O’r Galon: Blwyddyn Meinir nos Iau 13 Tachwedd ar S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?