S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Elusen Relate Cymru yn canmol rhaglen ddogfen S4C am dynnu sylw at sgil effeithiau tor-priodas ar blant

14 Tachwedd 2014

Mae elusen Relate Cymru wedi canmol rhaglen ddogfen fydd yn ymddangos ar S4C, sy'n trafod sgil effeithiau tor-priodas ar blant a phobl ifanc.

Pan oedd Hero Douglas o Gapel Curig yn 5 oed, gwahanodd ei rhieni, gan adael Hero a'i brawd Tybalt yng nghanol dadlau eu rhieni ynghylch ysgaru.

Nos Iau, 20 Tachwedd bydd Hero yn trafod sgil effeithiau tor-priodas ar blant a phobl ifanc ar O'r Galon: Yn y Canol, rhaglen arbennig sy'n rhan o dymor Dyma Fi S4C. Mae tymor Dyma Fi yn rhoi llwyfan i bynciau sy'n effeithio ar bobl ifanc yng Nghyrmu heddiw.

Mae O'r Galon: Yn y Canol wedi ei chynhyrchu gan y cwmni o Gaernarfon, Cwmni Da.

"Roeddwn i'n bump oed, a fy mrawd yn dair oed" dywed Hero sy'n byw gyda'i mam yng Nghapel Curig. "Roedd pethau'n anodd iawn i fi a fy mrawd. Teulu ni oedd yr unig un roeddwn i'n adnabod oedd wedi gwahanu. Roeddwn i'n meddwl mai fy mai i oedd o, achos roedden nhw'n ffraeo amdanon ni. Roeddwn i eisiau gwneud rhaglen i ddangos bod angen mwy o help ar blant yn yr un sefyllfa."

Yn blentyn, aeth Hero i drafod ei phrofiadau mewn sesiynau cynghori gydag aelod o elusen Relate Cymru. Wedi iddi fynychu'r sesiynau, fe sylweddolodd nad ei bai hi oedd ysgariad ei rhieni.

"Pan roeddwn i'n siarad â'r cwnsler, roeddwn i'n teimlo yn fwy relaxed. Roeddwn i'n teimlo mor euog adeg yna, achos pan ro'n i efo mam, mi oeddwn i'n teimlo mod i angen bod efo dad. A phan ro'n i efo dad, ro'n i'n teimlo 'mod i angen bod efo mam," dywed Hero.

Dywed Prif Weithredwr Relate Cymru, Gwilym Roberts:

“Nid yw gwahanu fyth yn hawdd, yn enwedig pan fydd plant ynghlwm. Ond i rai pobl dyna'r peth gorau i'w wneud, a'r cam nesaf yw penderfynu sut i fynd o amgylch pethau.

“Mae emosiynau dwys yn gallu achosi dadlau a theimladau drwg mewn cartref cyn, yn ystod ac wedi gwahanu, ac mae plant yn aml yn deall mwy nac ydym yn ei sylweddoli.

"Gall y broses hon olygu sgil effeithiau ar gyfer rhai plant a phobl ifanc, yn cynnwys problemau yn yr ysgol, cam-drin alcohol, problemau iechyd meddwl a materion iechyd. Ond mae meddu ar berthnasau cryf sydd yn bellgyrhaeddol yn ystod amseroedd hapus a gwael, a gwybod sut i reoli proses gwahanu yn gallu gwella'r canlyniadau i bawb."

Mae Relate Cymru yn cefnogi teuluoedd mewn amryw amgylchiadau, gan gynnwys pan fydd rhieni yn ystyried gwahanu. MAen nhw yn gweithio â rhieni fel cymorth iddynt wahanu mewn modd llai poenus, ac i leihau'r effaith ar blant.

Mae gwasanaethau Relate Cymru yn cynnwys cyngor ar berthynas, cyngor ar y teulu, cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc a gwasanaethau myfyrdod.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Relate Cymru ar 0300 003 2340 neu e-bostiwch enquiries@relatecymru.org.uk

Gwyliwch O'r Galon: Yn y Canol 20 Tachwedd am 9:30pm ar S4C. Mae modd gwylio'r rhaglen eto ar s4c.co.uk/clic.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?