S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn ennill gwobr ryngwladol am waith hyrwyddo Y Gwyll

21 Tachwedd 2014

Mae ymgyrch hyrwyddo S4C ar gyfer darllediad cyntaf y ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol yng Ngwobrau Drama Ryngwladol C21 Media.

Mae’r wobr 'Ymgyrch orau wrth farchnata cyfres ddrama i ddefnyddwyr' yn cydnabod llwyddiant yr ymgyrchoedd hysbysebu a'r gwaith o ddenu sylw i'r gyfres yn y cyfryngau a gwasanaethau newyddion, yn ogystal ag ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Roedd panel beirniadu'r Gwobrau Drama Ryngwladol C21 Media yn cynnwys 72 o brif gomisiynwyr a phenaethiaid drama'r byd. Fe dderbyniodd tîm hyrwyddo S4C y wobr yn y seremoni yn Llundain ar nos Iau, 20 Tachwedd.

Dyma yw'r ail wobr i gydnabod llwyddiant yr ymgyrch. Ar ddechrau mis Hydref fe enillodd yr ymgyrch wobr Canmol, gan y Sefydliad Siartredig Marchnata, gan ddod i'r brig yng nghategori Y Diwydiannau Celfyddydol, Treftadaeth a Chreadigol.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Rwy'n hynod falch bod tîm hyrwyddo a marchnata S4C wedi ennill y gydnabyddiaeth yma am eu gwaith, a hynny ar lwyfan rhyngwladol. Llongyfarchiadau i bawb fu'n rhan o'r ymgyrch greadigol a thrawiadol hon a wnaeth alw ar sgiliau ac arbenigedd ar draws y maes hyrwyddo a chyfathrebu. Mae'r gwaith yn parhau wrth i ni edrych ymlaen at bennod unigryw arbennig Y Gwyll/Hinterland ar Ddydd Calan."

Bydd Y Gwyll/Hinterland yn dychwelyd i S4C ar Ddydd Calan gyda phennod unigryw arbennig, gyda'r ail gyfres i ddilyn yn hwyrach yn 2015.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?