S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cysylltiad Cymru â'r UDA mewn e-lyfr i'w lansio ar ddiwrnod Diolchgarwch America

27 Tachwedd 2014

Ar ddiwrnod Diolchgarwch America, dydd Iau 27 Tachwedd, mae e-lyfr newydd yn cael ei ryddhau sy'n dathlu cysylltiad Cymru â'r UDA, a dylanwad Cymry ar hanes y wlad.

Mae e-lyfr Y Ddraig a'r Eryr yn adrodd hanes dramatig y Cymry yn yr UDA, o'r chwedlau mytholegol Madog, drwy realiti llym rhyfel ac aflonyddwch cymdeithasol i archwilio hunaniaeth Cymru America yn yr unfed ganrif ar hugain.

Wedi ei ysgrifennu a'i gynhyrchu gan y cyfarwyddwr Colin Thomas, mae'r e-lyfr yn waith gan Thud Media ac yn un o brosiectau Cronfa Ddigidol S4C.

Yn gymysg â'r gwaith ysgrifennu mae deunydd helaeth o ffynonellau archif – fideo, lluniau, sain a mapiau. Yn cynnig cyflwyniad i bob pennod o'r stori mae'r gantores Cerys Matthews sy'n cynnig cyflwyniad i bob pennod o'r hanes, ac mae'r gerddoriaeth gefndirol wedi ei ddarparu gan y cyfansoddwr Evan Dawson.

Dywedodd Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C, "Mae’r buddsoddiad yma o’r gronfa ddigidol yn amlygu ein hawydd ni i ddatblygu llwyfannau newydd ar gyfer gyflwyno cynnwys. Ag yn yr achos yma, yn dangos sut mae modd ail bwrpasu cynnwys oddi ar y sgrin fach mewn ffordd greadigol ar gyfer platfform digidol. Y gobaith yw mai dechrau'r daith yw cyhoeddi’r teitl yma ac y gallwn ni fachu ar y dechnoleg yma i addasu cynnwys sain, print a fideo er mwyn diddanu ac addysgu cynulleidfaoedd rhyngwladol."

Yn gyfrifol am gynnwys y llyfr mae'r cynhyrchydd teledu Colin Thomas, sydd wedi mwynhau gweithio ar y prosiect; "I mi, roedd y prosiect hwn yn fenter gyffroes iawn o gael symud o gynhyrchu rhaglenni teledu i gyhoeddi e-lyfr cynhwysfawr – yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf yn y byd cyhoeddi."

Meddai'r cwmni sy'n gyfrifol am ddatblygu e-lyfr Y Ddraig a'r Eryr, cwmni Thud Media: "Mae Thud Media yn falch o fod yn rhan o'r fenter gydweithredol hon gyda'r awdur a'r cynhyrchydd Colin Thomas i ddod â stori Y Ddraig a'r Eryr yn fyw. Mae hanes cyfoethog y Cymry yn America yn cael ei gyflwyno trwy ddefnydd testun, fideos, delweddau ac elfennau rhyngweithiol eraill yn yr e-lyfr hon."

Mae Y Ddraig a'r Eryr hefyd ar gael yn Saesneg (The Dragon and the Eagle) ac mae modd lawr lwytho'r ddau ar ffurf ap o'r App Store neu Google Store.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?