S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebu Y Gwyll am wobrau yn y Broadcast Media Awards

27 Tachwedd 2014

 Mae cyfres ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland, wedi'i henwebu ar gyfer dwy wobr yn y Broadcast Media Awards.

Daw'r enwebiadau ar gyfer gwobr y 'Gyfres Ddrama Orau' a 'Gwerthiannau Rhaglenni yn Rhyngwladol' wrth i'r seremoni gael ei chynnal am yr ugeinfed tro ar 4 Chwefror 2015 yn Llundain.

Mae'r Broadcast Media Awards yn cydnabod llwyddiannau rhaglenni a ddarlledir ar draws y DU.

Roedd cyfres gyntaf Y Gwyll yn gynhyrchiad gan Fiction Factory mewn cydweithrediad ag S4C, Tinopolis, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C ac All3Media International Ltd,

Mae'r gyfres eisoes wedi ennill tair gwobr BAFTA Cymru eleni. Enillodd ymgyrch hyrwyddo'r ddrama wobr yng ngwobrau C21 yn ddiweddar hefyd.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C: "Rwy'n falch dros ben i glywed am yr enwebiadau.

"Mae’r categorïau yn rhai cryf dros ben, y safon yn aruthrol o uchel ac mae’n galondid i weld Y Gwyll yn sefyll ochr yn ochr â’r dramau gwych eraill sydd ar y rhestr. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i weld pwy fydd yn eu hennill."

Wrth edrych ymlaen at ddangos pennod newydd arbennig Y Gwyll/Hinterland ar S4C ar Ddydd Calan, mae cyfle i fwynhau'r gyfres gyntaf eto bob nos Sul am 10.00.

Bydd DCI Tom Mathias a'i dîm yn dychwelyd i S4C ar 1 Ionawr 2015. Gallwch hefyd wylio'r penodau ar-lein, ar alw ar S4C Clic.

DIWEDD

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?