S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn penodi Comisiynydd Cynnwys Adloniant

01 Rhagfyr 2014

Mae S4C wedi penodi Elen Rhys i swydd Comisiynydd Cynnwys Adloniant.

Bydd Elen yn dechrau ar ei gwaith yn S4C ar ddydd Llun 2 Chwefror 2015.

Mae Elen yn gynhyrchydd gyda BBC Cymru Wales, a gyda gyrfa ugain mlynedd yn y byd darlledu mae ganddi brofiad cynhwysfawr o greu, ysgrifennu, cynhyrchu a goruchwylio cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol ar draws pob llwyfan.

Mae ganddi hefyd brofiad ym maes adloniant yn ogystal â rhaglenni i blant a phobl ifanc, ac yn ddiweddar bu'n gweithio ar nifer o gynyrchiadau cerddoriaeth y BBC, gan gynnwys BBC Young Musician, Choir of the Year, Canwr y Byd Caerdydd, Proms in the Park 2014, Plant Mewn Angen a rhaglenni rhwydwaith uchafbwyntiau'r Eisteddfod Genedlaethol ar y BBC.

Mae Elen hefyd yn llwyddiannus ym maes rhaglenni i blant a phobl ifanc, gan greu a chynhyrchu nifer o raglenni ar gyfer y rhwydwaith, yn rhyngwladol ac ar gyfer S4C; Un Tro, Plant y Byd ac Enwog o Fri, Ardal Ni yn rhai esiamplau diweddar.

Ym mis Hydref fe hysbysebodd S4C y swydd Comisiynydd Cynnwys Adloniant yn sgil penderfyniad Gaynor Davies i adael y rôl pan fydd ei chytundeb yn dod i ben ym mis Ebrill 2015.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Mae'n bleser cyhoeddi y bydd Elen Rhys yn ymuno â ni ar y tîm, ac rwy'n edrych ymlaen at ei chroesawu i'r swydd ym mis Chwefror. Bydd ei phrofiad ym maes cerddoriaeth ac adloniant, yn ogystal â'i sgiliau eang yn y maes darlledu, yn gaffaeliad ac rwy'n edrych ymlaen at ei gweld yn gosod ei marc ar y maes adloniant gyda chynnwys newydd a deinamig ar y sgrin ac ar lwyfannau eraill.

"Hoffwn ddiolch i Gaynor Davies am ei gwaith diflino a’i brwdfrydedd yn yr wyth mlynedd y bu'n arwain arlwy'r sianel yn y maes adloniant. Bu'n bleser gweithio â hi ac rwy'n dymuno'n dda iddi pan fydd yn ein gadael ni y flwyddyn nesaf."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?