S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dwy wobr i ffilm S4C, Y Syrcas yn yr Almaen

02 Rhagfyr 2014

Mae ffilm deulu boblogaidd S4C, Y Syrcas wedi ennill dwy wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Lleiafrifoedd Ewrop yn Husum, Nordfriesland yng ngogledd yr Almaen.

Cipiodd Y Syrcas Wobr y Beirniaid a Gwobr y Gynulleidfa mewn gŵyl ffilmiau lle'r oedd ffilmiau mewn ieithoedd lleiafrifol o wledydd Gwlad y Basg, iaith Ffriseg o’r Almaen, a ffilm Aeleg o'r Alban yn cystadlu.

Mae ffilm Y Syrcas wedi ei hysbrydoli gan yr hanes lleol bod syrcas wedi ymweld â Thregaron, Ceredigion ym 1848. Yn ôl y sôn, bu farw eliffant a chafodd ei gladdu y tu ôl i dafarn leol.

Mae'n ffilm am ferch ifanc sy'n cael ei hudo gan y syrcas ac yn dod yn ffrindiau gydag ‘Affrica’ yr eliffant.

Yno i dderbyn y wobr roedd Saran Morgan, prif actores y ffilm Y Syrcas.

“Roedd e'n sioc braf i ennill un wobr, heb sôn am ennill dwy. Ond roedd cryfder y ffilm Y Syrcas yn gwbl amlwg, fe wnaeth pawb weithio mor galed, ac roedd hi'n fraint i mi dderbyn y wobr ar eu rhan. Roedd yn brofiad arbennig iawn i gael bod yn yr ŵyl," meddai Saran, sydd ar hyn o bryd yn serennu yng nghyfres ddrama S4C, Cara Fi.

Cyfarwyddwr a chynhyrchydd y ffilm ydy Kevin Allen, sydd yn adnabyddus am y ffilm eiconig Twin Town (1997) ac sydd hefyd wedi ffilm sydd ymlaen adeg y Nadolig, fersiwn herfeiddiol newydd o glasur Dylan Thomas, Dan y Wenallt.

Meddai Kevin Allen, "Mae hyn yn newyddion gwych i bawb a oedd yn rhan o'r cynhyrchiad, ac roedd pawb o'r cast i'r criw yn llawn haeddu'r wobr. Mae'n deimlad arbennig meddwl bod y ffilm mor boblogaiddd gyda chynulleidfa ryngwladol."

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C,

"Rwy'n hynod o falch bod ffilm Y Syrcas wedi derbyn y cydnabyddiaeth yma a hynny ar lwyfan rhyngwladol. Llongyfarchiadau i'r tîm cynhyrchu i gyd."

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?