S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dan y Wenallt yn ymddangos yn y sinemâu

09 Rhagfyr 2014

  Ar ddydd Iau, 11 Rhagfyr bydd fersiwn newydd o Dan y Wenallt i'w gwylio mewn sinemâu ar draws Cymru.

Bydd Dan y Wenallt yn ymddangos ar S4C nos Sadwrn, 27 Rhagfyr, ond bydd sinemâu dethol ar draws Cymru yn dangos y ffilm cyn hynny. Bydd y ffilm yn ymddangos yn y lleoliadau hyn: Caerdydd, Croesoswallt, Abergwaun, Trefynwy, Llancarfan, Ynys Môn a Thywyn. Bydd y ffilm hefyd yn ymddangos yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli ar 16 Rhagfyr, a bydd sesiwn cwestiwn ac ateb wedi'r ffilm.

Mae'r ffilm swrrealaidd, radicalaidd ac erotig Gymraeg yn dod a Kevin Allen a Rhys Ifans ynghyd unwaith eto, dros bymtheg mlynedd ers iddyn nhw ffilmio'r enwog Twin Town. Mae'r cast yn cynnwys nifer o wynebau cyfarwydd Cymreig, dan arweiniad Rhys Ifans fel y Llais Cyntaf a Capten Cat, ochr yn ochr â'r gantores a'r actores Charlotte Church fel Polly Garter.

Dyma'r dramateiddiad sinematig cyntaf o waith Dylan Thomas ers fersiwn Richard Burton yn 1972. Daw'r ffilm a chwedloniaeth y bardd i'r 21fed Ganrif, a hynny ar achlysur ei ganfed pen-blwydd.

Addaswyd y ddrama i'r Gymraeg gan y dramodydd a'r cyn Archdderwydd T. James Jones, a chynhyrchwyd sgript y ffilm gan Murray Lachlan Young, Michael Breen a'r cyfarwyddwr Kevin Allen. Mae Dan Y Wenallt yn archwilio darluniau cyfoethog o benillion breuddwydiol. "Roeddwn i'n benderfynol o greu trosiad sinematig oedd yn herio'r ddirnadaeth gyffredin, y dylai barddoniaeth aros ym mharth y darllenydd," meddai Kevin Allen, am ei ddehongliad o'r ffilm.

Nodyn i olygyddion

Bydd y ffilm yn ymddangos yn y sinemâu hyn:

Dydd Iau, 11 Rhagfyr 2014

Chapter, Caerdydd, gyda sesiwn cwestiwn ac ateb, 7:30

KinoKulture, Croesoswallt, 7:00

Theatr Gwaun, Abergwaun, 7:30

Theatr Blake, Trefynwy, 7:15

Sinema Llancarfan, 7:30

Sinema Ucheldre, Sir Fôn, 8.00

11-14 Rhagfyr 2014: Magic Lantern, Tywyn, 7:00

Dydd Mawrth 16 Rhagfyr 2014, Y Ffwrnes, Llanelli gyda sesiwn cwestiwn ac ateb 7:30

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?