S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

DNA Cymru – prosiect pellgyrhaeddol sy'n holi 'Pwy yw'r Cymry?'

27 Chwefror 2015

Ar Ddydd Gŵyl Dewi bydd S4C yn dechrau ar daith epig i geisio ateb y cwestiwn 'Pwy ydy'r Cymry?' gyda rhaglen ddogfen DNA Cymru fel cyflwyniad i gyfres o bwys cenedlaethol fydd yn cael ei darlledu yn yr hydref.

Ers y dyddiau cynnar mae'r Cymry wedi gofyn cwestiynau mawr fel 'Pwy ydym ni?' 'O ble y daethom ni?' 'Beth sydd yn ein cysylltu ni â gweddill o bobl y byd?' 'Beth sydd yn ein gwneud ni'n wahanol?'

Bydd cyfres S4C DNA Cymru yn ceisio ateb y cwestiynau drwy ddefnyddio samplau DNA'r Cymry heddiw. Mae'r gyfres yn rhan o brosiect cyffrous sy’n bartneriaeth rhwng S4C, CymruDNAWales, Trinity Mirror - cyhoeddwyr y Western Mail a'r Daily Post – a'r cwmni cynhyrchu Green Bay Media.

Nod y prosiect yw cynnal yr arolwg fwyaf o'r DNA hynafiadol sy'n bresennol ym mhoblogaeth Cymru. Gwneir hyn drwy brawf poer. Bydd y gyfres hefyd yn defnyddio DNA hynafiadol i geisio ateb rhai cwestiynau hanesyddol.

Bydd y gwylwyr yn cael eu gwahodd i ddilyn siwrnai dynolryw o'i gwreiddiau yn Affrica i drigolion cynharaf y wlad a adwaenir bellach fel Cymru hyd at ein hoes ni heddiw. Bydd y cyflwynwyr Beti George, Dr Anwen Jones a Jason Mohammad yn egluro sut mae gwyddoniaeth DNA yn gallu datgelu glasbrint genetig yn ymestyn nôl tu hwnt i hanes cofnodedig.

Yn ystod y gyfres bydd aelodau o'r cyhoedd ac wynebau cyfarwydd yn darganfod eu gwreiddiau yn y gorffennol pell. Bydd pedwar enw cyfarwydd - Bryn Terfel, Gareth Edwards, Dafydd Iwan a Sian Lloyd - yn darganfod eu gwreiddiau yn y rhaglen agoriadol ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Yn y rhaglen bydd Jason Mohammad yn egluro sut mae marcwyr genetig yn digwydd ar draws cenedlaethau; bydd Dr Anwen Jones yn dangos sut mae dadansoddiad DNA yn gallu datgelu ein llinachau hynafol a bydd Beti George yn Nhanzania yn egluro ei bod yn bosib dilyn achau'r Cymry nôl yn y pen draw i Affrica.

Syniad Prif Weithredwr S4C, Ian Jones yw menter Cymru DNA Wales, aeth i drafod ei syniad gyda chwmni ymchwil llwyddiannus yn Yr Alban a oedd yn gyfrifol am ScotlandsDNA.

Meddai Ian Jones: "Mae S4C yn falch o fod yn un o’r prif bartneriaid yn y prosiect yma fydd yn torri cwys newydd ac yn bwrw goleuni o’r newydd ar hanes Cymru a gwledydd Prydain. Mae'r prosiect yn rhan hanfodol o'n strategaeth aml blatfform a thrwy gydweithio gyda nifer o sefydliadau deinamig eraill, rydym yn helpu i greu etifeddiaeth a fydd yn parhau tra bydd ein cenedl a’i diwylliant yn ffynnu."

Cwmni Green Bay Media sy'n cynhyrchu'r gyfres DNA Cymru. Meddai John Geraint, golygydd y gyfres, "Mae hon yn stori epig am daith pobl drwy hanes. Byddwn yn datgelu gwybodaeth am achau genetig eiconau Cymreig go iawn, wrth ddilyn stori ryfeddol y Cymry, pwy ydym ni ac o ble y daethom."

Bydd cyfres DNA Cymru yn dilyn yn yr hydref. Am fwy o fanylion am y prosiect Cymru DNA Wales, ewch i safle'r gyfres ar http://www.s4c.co.uk/cymrudnawales/e_index.shtml

Gwyliwch DNA Cymru ar S4C nos Sul 1 Mawrth 8.00.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?