S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Does dim byd all guro Dim Byd yng Ngwobrau'r Cyfryngau Celtaidd

27 Ebrill 2015

Mae hiwmor swreal y gyfres deledu boblogaidd Dim Byd wedi llwyddo i lorio'r beirniaid yng Ngwobrau'r Cyfryngau Celtaidd 2015 drwy ennill y brif wobr yn y categori adloniant.

Fe gurodd Dim Byd dri enwebiad arall ar y rhestr fer yn yr ŵyl a gynhaliwyd yn Inverness yn Ucheldiroedd yr Alban yr wythnos diwethaf.

Mae'r gyfres sgetsys comedi wedi ennill ei phlwyf fel un o brif gyfresi comedi S4C ers iddo ymddangos gyntaf yn 2011.

Cwmni cynhyrchu Cwmni Da o Gaernarfon sy'n gyfrifol am greu'r gyfres, sydd wedi cyflwyno cymeriadau fel 'Y Tad Maximillian', 'Lle Goblin' a'r Reservoir Gogs' i ddiwylliant poblogaidd Cymru. Drwy'r dechneg syml o ddilyn gwyliwr teledu anhysbys sy'n neidio o sianel i sianel, gwelwn lu o raglenni teledu rhyfedd.

Mae'r gyfres eisoes wedi ennill gwobrau BAFTA Cymru – yn 2014 am Raglen Gerddoriaeth ac Adloniant orau yn 2014 a'r Rhaglen Blant Orau yn 2012.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys, Adloniant S4C, Elen Rhys, "Hoffwn longyfarch cynhyrchwyr Dim Byd ac i Gwmni Da am eu llwyddiant yn yr ŵyl.

"Gwreiddioldeb y fformat a'r gymysgedd o wahanol fathau o hiwmor, o swreal i'r slapstig sy'n greiddiol i lwyddiant Dim Byd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?