S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwylwyr i gael y cyfle i wylio Cwpan Rygbi'r Byd 2015 yn Gymraeg ar S4C

13 Mawrth 2015

   Mae S4C wedi sicrhau'r hawliau i ddarlledu gemau Cwpan Rygbi'r Byd 2015 - a bydd y sianel yn cynnig gwasanaeth swmpus o gemau byw, uchafbwyntiau a rhaglenni trafod a dadansoddi.

Fe fydd gwasanaeth Cwpan Rygbi'r Byd 2015 ar S4C yn cynnwys naw gêm fyw, gan ddilyn holl gemau Cymru yn ystod y bencampwriaeth a gynhelir yn bennaf yn Lloegr.

A beth bynnag fydd tynged Cymru yn ystod y gystadleuaeth, bydd S4C yn darlledu'n fyw un gêm o rownd yr wyth olaf, un gêm o'r rownd gynderfynol, y gêm efydd a'r ffeinal.

Bydd gwasanaeth S4C yn dechrau ar 18 Medi gyda darllediad o'r seremoni a'r gêm agoriadol Lloegr v Fiji yn Twickenham.

Bydd ymgyrch Cymru yn y bencampwriaeth yn dechrau ar 20 Medi yn Stadiwm y Mileniwm yn erbyn Uruguay. Yna bydd Cymru'n chwarae Lloegr yn Twickenham ar 26 Medi. Ar 1 Hydref fe fydd Cymru yn wynebu Fiji yng Nghaerdydd ac Awstralia v Cymru fydd y gêm hollbwysig olaf yn y rowndiau grwp ar 10 Hydref yn Twickenham.

Yn ogystal â'r darllediadau teledu, bydd y naw gêm ar gael i'w gwylio ar wasanaeth ar-lein ar-alw S4C, s4c.cymru/clic

Gallwch hefyd fwynhau holl uchafbwyntiau'r gemau ar y wefan rygbi, s4c.cymru/clic a hefyd ar iPlayer a llwyfannau eraill.

Bydd S4C yn datgelu'r tîm cyflwyno llawn yn nes at ddechrau'r gystadleuaeth ond gallwn gadarnhau bod y cyflwynydd Gareth Roberts a'r sylwebydd a chyn gapten Cymru Gwyn Jones yn eu plith.

Fe fydd rhaglenni trafod a dadansoddi ymlaen yn aml yn ystod y bencampwriaeth – gydag enwau amlwg o'r byd chwaraeon a darlledu ar y panel. Gwyliwch am gyhoeddiadau pellach ynghylch hyn.

Yn ogystal, bydd y sioe siarad rygbi a mwy, Jonathan ymlaen yn ystod y bencampwriaeth gyda Jonathan Davies a Sarra Elgan yn bwrw golwg ysgafn ar yr holl chwarae ar noswyl gemau Cymru. Avanti fydd cynhyrchwyr y sioe hon.

Dywed Cadeirydd Cwpan y Byd, Bernard Lapasset, "Fe fydd Cwpan Rygbi’r Byd 2015 yn ddathliad arbennig, byd-eang o rygbi ac o’r dinasoedd hynny sydd yn cynnal y gystadleuaeth.

"Fe fydd Cymru wrth galon y gystadleuaeth gyda’r chwaraewyr, trefnwyr a chefnogwyr yn amlwg iawn ac rydym ni fel trefnwyr Cwpan y Byd yn hynod gyffrous am y ddarpariaeth Gymraeg eang gan S4C fydd yn cyrraedd ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru."

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Mae cael darlledu'r gemau yn Gymraeg yn ystod y bencampwriaeth yn newyddion da i ddilynwyr rygbi yng Nghymru a thu hwnt. Mae'n wasanaeth arbennig o bwysig o gofio y bydd rhai o gemau Cwpan y Byd yn cael eu chwarae yng Nghymru.

"Yr hyn sy'n wych i wylwyr rygbi ar ein sianel yw bod y gwasanaeth hwn yn goron ar ein darpariaeth rygbi, sy'n cynnwys rygbi ar bob lefel ac oedran yng Nghymru, y DU a'r byd. Mae'n wasanaeth unigryw sy'n dangos ein hymroddiad i gêm sydd wrth galon bywyd yng Nghymru."

Mi fydd promo yn cael ei ddangos yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn yma yn dangos rygbi ar bob lefel yng Nghymru.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?