S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lansio cyfres newydd sy’n trafod profiadau plant a phobl ifanc mewn ffordd agored a chytbwys

01 Ebrill 2015

Mae S4C wedi lansio Llond Ceg - cyfres newydd i blant a phobl ifanc sydd yn trafod materion, profiadau a phroblemau sy’n wynebu plant a phobl ifanc mewn modd agored, gonest, cytbwys a sensitif.

Cafodd pennod o’r gyfres ei dangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Caerffili pan ymwelodd un o gyflwynwyr y gyfres Aled Haydn Jones â’r ysgol.

Mae nifer o ddisgyblion yr ysgol honno, ynghyd â disgyblion mewn amryw o ysgolion ledled Cymru, wedi cymryd rhan mewn trafodaethau yn y gyfres am bynciau fel bwlio, teulu, rhyw, hunanddelwedd, gwaith cartref ac ysgariad.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C, "Mae amryw o'r pynciau yn y gyfres Llond Ceg yn rai sy'n anodd i'w trafod, ac mae wedi bod yn agoriad llygaid i weld pobl ifanc yn trafod pethau sensitif fel iechyd meddwl a'r glasoed mewn ffordd mor agored a hyderus. Hoffwn ddiolch i'r plant sydd wedi cymryd rhan am fod mor onest am bob math o bethau sy’n eu heffeithio nhw.

"Uchelgais Aled, y cyflwynydd, a chriw cynhyrchu Green Bay Media oedd taclo rhai o'r pynciau anodd yma, a gyda chymorth arbenigwyr ac elusen NSPCC maen nhw wedi llwyddo i wneud hynny mewn modd sensitif. Rwy'n falch iawn ein bod yn cynnig cyfres flaengar ac uchelgeisiol fel Llond Ceg yn amserlen Stwnsh."

Bydd y gyfres o wyth rhaglen, a fydd yn cael ei darlledu bob prynhawn Mercher, 15 Ebrill am 5.30, yn rhan o’r gwasanaeth plant a phobl ifanc, Stwnsh. Mae’n gyfres sydd wedi ei chreu ar gyfer gwylwyr rhwng 8 a 14 oed, ac fe fydd neges wybodaeth cyn y rhaglen yn egluro bod y cynnwys yn trafod pynciau sensitif.

Mae gwasanaeth ChildLine, rhan o NSPCC Cymru yn cynnig cymorth cyfrinachol ar y ffôn, e-bost a sgwrs ar-lein ar ChildLine.org ac ar 0800 1111 yn Gymraeg a Saesneg ac mae croeso i blant a phobl ifanc gysylltu i drafod unrhyw faterion sydd yn codi yn ystod y rhaglen.

Mae ap arbennig Llond Ceg hefyd wedi cael ei lansio sydd yn cynnwys gwybodaeth, cyngor a chysylltiadau defnyddiol i blant a phobl ifanc.

Mae’r cwmni cynhyrchu Green Bay Media wedi ymgynghori’n ofalus gyda sefydliadau addysgol a NSPCC Cymru wrth baratoi’r gyfres ac roedd cynghorydd ChildLine yn bresennol yn ystod ffilmio'r sesiynau trafod holi ac ateb. Mae doctoriaid hefyd yn rhoi cyngor yn y rhaglen ac mae’r seicotherapydd plant Aaron Balick, sydd eisoes yn gweithio ag Aled Haydn Jones ar raglen The Surgery ar BBC Radio 1, wedi bod yn rhan o’r broses.

Yn ogystal ag Aled Haydn Jones, sy’n wreiddiol o Aberystwyth, fe fydd DJ Capital FM a’r cyflwynydd teledu Geraint Hardy a’r gantores o Ferthyr Tudful Kizzy Crawford hefyd yn cyflwyno Llond Ceg. Bydd nifer o wynebau adnabyddus, fel Rhys Ifans, Richard Elis, Tara Bethan, Anni Llŷn ymysg eraill yn sôn am y profiadau y cawson nhw wrth aeddfedu.

Meddai Bethan Simmonds, NSPCC Cymru. "Mae gwasanaeth ChildLine yr NSPCC yn cynnal bron 1,000 o sesiynau cwnsela yn ddyddiol gyda phlant a phobl ifanc ledled Prydain, a dyma'r pynciau mae Llond Ceg yn sôn amdanynt. Gall siarad am broblemau fod yn brofiad anodd, ag yn aml gwelwn bobl ifanc yn rhoi cymorth i’w gilydd ar fyrddau trafod ChildLine.org. Mae’n dda cael gweld yr un math o gefnogaeth yn cael ei gynnig i bobl ifanc Llond Ceg."

Diwedd

Nodiadau i’r golygydd:

Mae’r gyfres Llond Ceg wedi ei chreu ar gyfer plant 8 i 14 oed ac mae’r gyfres yn delio â rhai testunau y gall rhai rhieni deimlo sy’n anaddas i blant llai.

Mae ChildLine yn wasanaeth preifat a chyfrinachol ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 19 oed. Gallwch gysylltu â cynghorydd ChildLine i drafod unrhyw beth 24 awr y dydd. Gallwch ffonio'r linell gymorth am ddim ar 0800 1111, neu mewn sgwrs breifat ar-lein ar ChildLine.org neu ar e-bost.

O ganlyniad i'r bartneriaeth rhwng Green Bay Media, NSPCC, S4C a Chomisiynydd Plant Cymru, mae ap arbennig Llond Ceg ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae'r ap yn cynnwys gwybodaeth, cyngor a chysylltiadau defnyddiol i blant a phobl ifanc, ac mae hwn ar gael i’w lawr lwytho yn rhad ac am ddim ar gyfer dyfeisiadau Android ac Apple.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?