S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Arian ac Efydd i S4C yng Ngwobrau Efrog Newydd

15 Ebrill 2015

Mae dwy raglen ffeithiol nodedig ar S4C wedi ennill gwobrau Arian ac Efydd yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2015.

Cyflwynwyd Gwobr Arian i'r rhaglen Gwirionedd y Galon: Dr John Davies yn y categori Bywgraffiad/Portread. Yn gynhyrchiad gan gwmni Telesgop, fe ddarlledwyd y portread gonest o'r diweddar hanesydd Dr John Davies yn 2013, yn ystod y flwyddyn y dathlodd ei ben-blwydd yn 75 oed.

Fe wobrwywyd Gwobr Efydd i'r gyfres dair rhan Adam Price a Streic y Glowyr yn y categori Hanes a Chymdeithas. Roedd y gyfres hon, sy'n gynhyrchiad gan Tinopolis, yn dilyn y gwleidydd ar daith bersonol drwy Streic y Glowyr 1984-85 ac mae'r gyfres wedi derbyn cryn ganmoliaeth a sylw yn y cyfryngau.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C, "Rwy'n falch iawn o lwyddiant y ddau gynhyrchiad, yn enwedig am eu bod nhw wedi rhoi llwyfan rhyngwladol i bynciau sydd o bwys i dreftadaeth a diwylliant Cymreig. Mae'r gyntaf yn bortread o ffigwr a gyfrannodd fwy na neb i ddealltwriaeth y genedl o hanes ein gwlad, a'r ail yn gyfres sy'n darlunio un o'r cyfnodau mwyaf cythryblus yn ein hanes diweddar. Mae'n arbennig o ingol bod y rhaglen Gwirionedd y Galon wedi derbyn yr anrhydedd hon mor fuan wedi marwolaeth Dr John Davies ym mis Chwefror. Mae'r wobr yn deyrnged iddo ef."

Fe gyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni yn Las Vegas ar nos Fawrth, 14 Ebrill, 2015, a dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i raglenni S4C fwynhau llwyddiant yn yr ŵyl ryngwladol hon.

Yn 2013 fe wnaeth y ddogfen Fy Chwaer a Fi (Bulb Films, rhan o Boom Pictures Cymru) ennill Gwobr Aur yn y categori Achosion Dynol. Yn 2014 fe enillodd Taith Fawr y Dyn Bach (Cwmni Da) Wobr Arian yn y categori Achosion Dynol, a derbyniodd y rhaglen Karen (Cwmni Da) Wobr Efydd yn yr un categori.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?