S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tour de Cymru seiclwyr y sianel er budd hosbisau plant

16 Ebrill 2015

Bydd criw o weithwyr S4C yn seiclo o swyddfa i swyddfa, o Gaernarfon i Gaerdydd, y penwythnos yma er budd hosbisau Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan.

Yn dechrau fore Sadwrn, 18 Ebrill, o swyddfa S4C yn Noc Fictoria, Caernarfon, bydd y grŵp o 23 yn seiclo 190 milltir dros gyfnod o dridiau hyd ben y daith ym mhencadlys y sianel yn Llanisien, Caerdydd ar ddydd Llun 20 Ebrill.

Bu'r criw yn trefnu ac yn hyfforddi ar gyfer y daith ers rhai misoedd, a nawr fod dyddiad y daith wedi dod maen nhw'n gobeithio y bydd tywydd ffafriol a lwc dda o'u plaid.

Mae Chris Morris, swyddog yn Adran Ddadansoddi S4C, yn un o'r criw sydd wedi trefnu'r daith.

"Mae yna nifer ohonom ni, yn gyd-weithwyr yn S4C, sy'n mwynhau seiclo. Criw bychan ohonom ni oedd am wneud y daith yn wreiddiol, ond wrth sôn am y syniad a chynnig cyfle i ragor o'n cyd-weithwyr, buan tyfodd y grŵp i dros 20," meddai Chris, sydd wedi ei fagu yng Nghaerdydd.

"Ry' ni'n edrych ymlaen at yr her, ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi ei noddi ni hyd yma. Mae Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan yn elusennau sy'n cynnig cefnogaeth a hapusrwydd i blant a'u teuluoedd mewn cyfnodau anodd iawn, ac rydym yn falch o allu gwneud rhywbeth i gefnogi eu gwaith yn y ddau safle yn y de ac yn y gogledd."

Yn dechrau yng Nghaernarfon fore Sadwrn, bydd y diwrnod cyntaf yn daith 64 milltir i Gorris, ger Machynlleth. Ddydd Sul, mae taith 67 milltir o'u blaenau, cyn oedi am y noson yn Aberhonddu. Ac ar y diwrnod olaf byddan nhw'n seiclo 59 milltir hyd at ben y daith yng Nghaerdydd.

Mae modd noddi'r seiclwyr a chyfrannu at y ddwy elusen Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith ar wefan Just Giving: https://www.justgiving.com/teams/s4c

A gallwch ddilyn antur y seiclwyr ar y cyfrif Twitter @BeicioS4C

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?