S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dilynwch Bencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd – Yn Fyw ar S4C

22 Mai 2015

Fe fydd Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn cael ei darlledu ar S4C - gyda holl gemau Cymru ar gael i'w gwylio yn fyw. Mae’r sianel deledu wedi sicrhau’r hawliau i ddarlledu’r bencampwriaeth yn 2015 a 2016 drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yw'r gystadleuaeth sy'n dangos y safon uchaf o gystadlu mewn cystadlaethau rhyngwladol o dan 20 oed. Cynhelir y digwyddiad yn Yr Eidal rhwng 2 a 20 o Fehefin 2015, pan fydd Cymru yn wynebu Ffrainc ar brynhawn agoriadol y bencampwriaeth yn fyw ar S4C am 3.10.

Wedi'i amserlennu ar gyfer darllediadau byw hefyd mae gemau grŵp Cymru, sef Japan, a hen elyn Cymru, Lloegr. Bydd gemau eraill Cymru yn y bencampwriaeth hefyd yn cael eu darlledu yn fyw (amserlenni i'w cadarnhau yn olynol a'r canlyniadau) ac fe fydd Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn cyrraedd uchafbwynt ar S4C ar 20 Mehefin wrth i'r gêm derfynol gael ei darlledu yn fyw.

Bydd Gareth Roberts yn cyflwyno'r rhaglenni o'r digwyddiad rhyngwladol dan 20, a bydd Cennydd Davies a Gareth Rhys Owen yn sylwebu ar y gemau, yn ogystal â phersonoliaethau eraill profiadol o’r byd rygbi fydd yn rhannu eu harbenigaeth a'u dadansoddiad o'r gêm.

Mae Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn rhan enfawr o flwyddyn o rygbi ar S4C. Yn ystod mis Medi yma fe fydd y sianel hefyd yn gyfrifol am ddarlledu ymgyrch carafán Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015. Ond mae Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn gyfle i wylio sêr y dyfodol.

Meddai Sue Butler, Golygydd Chwaraeon S4C; "Mae rygbi dan 20 wedi newid gêr dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi symud o fod yn gyfle ar gyfer datblygu chwaraewyr, i fod yn ddigwyddiad o bwys. Mae gan gynulleidfa rygbi S4C ddisgwyliadau uchel - ac erbyn hyn mae'r gemau dan 20 yn cael eu hystyried fel gornestau atyniadol a deniadol. Rydym ni'n hynod falch i allu darlledu Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn fyw ar S4C."

Dywed Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies; "Rydyn ni wrth ein boddau bod S4C yn darlledu holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn ystod y mis nesaf. Mae ymrwymiad o'r math yma gan ein partner darlledu yn dangos pa mor bwysig yw rygbi dan 20 yng Nghymru i S4C. Dyma elfen allweddol o strategaeth Undeb Rygbi Cymru fydd yn datblygu chwaraewyr o'r safon uchaf i chwarae i'r timau rhanbarthol a chenedlaethol."

Dywed Murray Barnett, Pennaeth Masnachol, Darlledu a Marchnata Word Rugby; "Rydym ni wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth gyda S4C - darlledwr sydd yn hynod angerddol am rygbi ac am y bencampwriaeth hon," meddai Murray Barnett, Pennaeth Masnach, Darlledu a Marchnata World Rugby. "Mae'r bencampwriaeth yn addo i fod yn ddigwyddiad cyffrous iawn yn yr Eidal eleni, lle fydd sêr y dyfodol yn gallu arddangos eu talent yn ystod blwyddyn enfawr ar gyfer rygbi."

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?