S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn llongyfarch Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru Newydd

26 Mai 2015

 Mae S4C wedi croesawu a llongyfarch Anni Llŷn i'w rôl newydd fel Bardd Plant Cymru.

Mewn seremoni ar lwyfan Prifwyl Eisteddfod yr Urdd heddiw, dydd Mawrth 26 Mai, cyhoeddodd Y Prif Weinidog Carwyn Jones mai’r llenor a’r cyflwynydd teledu Anni Llŷn fydd Bardd Plant Cymru 2015-17.

Bydd Anni yn cychwyn ar gyfnod o brentisiaeth dan adain y Bardd Plant presennol, Aneirin Karadog, mewn gwyliau amrywiol dros yr haf cyn cymryd yr awenau yn llawn ym mis Medi.

Mae Bardd Plant Cymru yn gynllun ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru, S4C, Llywodraeth Cymru, Yr Urdd a Chyngor Llyfrau Cymru.

Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C; "Rydw i wrth fy modd fod Anni wedi ei dewis i fod yn Fardd Plant Cymru, a dwi'n dymuno pob hwyl iddi yn y rôl. Mae Anni yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C; ar raglenni plant Stwnsh, ac yn rhan o dîm cyflwyno ein rhaglenni o faes Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch eleni. Mae ei doniau fel bardd ac awdur yn amlwg yn ogystal â'i ffordd hawddgar wrth sgwrsio a gweithio efo plant a phobl ifanc. Hoffwn hefyd gymryd y cyfle i ddiolch i Aneirin Karadog am ei waith cyn i'w gyfnod ef fel Bardd Plant Cymru ddod i ben."

Mae Anni eisoes yn wyneb cyfarwydd i blant a phobl ifainc ledled Cymru ar ôl treulio pum mlynedd yn ei swydd flaenorol yn cyflwyno’r rhaglen Stwnsh ar S4C.

Daeth i amlygrwydd fel llenor yn 2012 pan enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd am nofel fer ac ers hynny mae hi wedi cyhoeddi dau lyfr i blant a phobl ifainc, Nanw a Caradog Crafog Llwyd Lloerig (Gomer, 2013) ac Asiant A (Y Lolfa 2014).

Yn ymddiddori mewn rhyddiaith yn ogystal â barddoniaeth, bydd Anni yn rhoi stamp storïol ar ei rôl ac yn denu sylw drwy ei gweithdai i ganmlwyddiant dau awdur plant pwysig iawn i Gymru sef T Llew Jones a Roald Dahl. Yn wreiddiol o Sarn Mellteyrn, ym Mhen Llŷn mae Anni bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd lle graddiodd yn y Gymraeg, ac mae hi’n edrych ymlaen i deithio nôl ac ymlaen o’r brifddinas i Ben Llŷn ac i bobman yn y canol i gynnal gweithdai mewn ysgolion ac yng nghymunedau Cymru.

Meddai Anni: “Bydd rhaid cofio fod pob plentyn a phob ysgol yn wahanol, dwi wedi dysgu dros y blynyddoedd bod rhaid meddwl ar dy draed wrth drin â chriw newydd sbon o blant ac amrywio’r dull o gyfathrebu. Mi fydd hynny’n dasg a hanner wrth deithio i gymaint o ysgolion gwahanol dros Gymru, yn ogystal â chael pawb i ddeall fy acen Pen Llŷn!”

Mae Anni’n ymuno â rhestr faith o enwau sydd wedi ymgymryd â rôl y Bardd Plant ers i’r cynllun gychwyn yn y flwyddyn 2000 sef Aneirin Karadog, Eurig Salisbury, Dewi Pws, Twm Morys, Ifor ap Glyn, Caryl Parry Jones, Gwyneth Glyn, Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn Jones, Menna Elfyn, Mei Mac a Myrddin ap Dafydd.

Meddai: "O edrych yn ôl ar y beirdd talentog sydd wedi gwneud y swydd hon yn barod, mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n eithaf nerfus, ond dwi hefyd yn hynod gyffrous mod i’n cael y fraint o fod yn Fardd Plant Cymru. ‘Dwi wedi cadw rhif ffôn Aneirin Karadog yn ddiogel ar gyfer swnian am gyngor!

"Dwi wedi gweithio efo plant ers blynyddoedd bellach ac mae nhw’n ysbrydoliaeth i mi. Fel Bardd Plant Cymru, dwi’n gobeithio y bydda innau yn gallu eu hysbrydoli hwythau i chwarae a chael hwyl efo geiriau a pheidio bod ofn bod yn greadigol a defnyddio eu dychymyg.

"Dwi yn gobeithio hefyd y bydd y cyfnod yma o weithio efo plant yn gyfle gwych i mi fod yn fwy cynhyrchiol fel awdur plant."

I fynegi diddordeb mewn derbyn gweithdy gan Fardd Plant Cymru ewch i barddplant.cymru neu ebostiwch barddplant@llenyddiaethcymru.org

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?