S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i leisio barn am S4C a’r byd darlledu

08 Mehefin 2015

 Mae S4C yn cynnal Noson Gwylwyr yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Caerffili nos Fawrth, 16 Mehefin a bydd Cadeirydd Awdurdod S4C a Phrif Weithredwr S4C yno i drafod rhaglenni a gwasanaethau'r sianel.

Yn dilyn llwyddiant Eisteddfod yr Urdd 2015 yng Nghaerffili, fe fydd cyfle i wylwyr fynegi eu barn am raglenni a gwasanaethau S4C yn ogystal â thrafod beth y maen nhw'n dymuno eu gweld ar y sianel yn y dyfodol.

Bydd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C yn ymuno â Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C a’r dyfarnwr rygbi a chyflwynydd poblogaidd, Nigel Owens yng Nghampws y Gwyndy.

Mae amserlen yr haf yn cynnwys tymor o raglenni am Batagonia i gyd-fynd â glaniad y Cymry yno 150 mlynedd yn ôl, darlledu byw o nifer o wyliau mawr Cymru, gan gynnwys y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol a darlledu byw o’r ras seiclo Tour de France.

Mae amserlen yr hydref yn llawn uchelfannau, gan gynnwys gemau byw ac uchafbwyntiau o Gwpan Rygbi'r Byd, y gyfres ddogfen DNA Cymru a chyfresi drama drawiadol fel Y Gwyll a 35 Diwrnod.

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Fe wnaeth Eisteddfod yr Urdd Caerffili ddangos cymaint o frwdfrydedd a diddordeb oedd am yr iaith a diwylliant Cymraeg yn yr ardal. Fe gafodd S4C ymateb rhyfeddol yn y Pafiliwn S4C, gyda miloedd yn ymweld i fwynhau sioeau plant Cyw ac Ysbyty Hospital. Yn ystod y Noson Gwylwyr bydd cyfle i drafod gwasanaethau plant a phobl ifanc, yn ogystal â'r cyfresi i'r teulu cyfan. Rydym yn edrych ymlaen at glywed eich barn am raglenni’r sianel neu unrhyw elfennau eraill o wasanaeth S4C."

Darperir lluniaeth ysgafn, system ddolen sain ac offer cyfieithu.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141 neu gwifren@s4c.cymru.

DIWEDD

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?