S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwobr i raglenni cylchgrawn S4C am ei hagwedd bositif tuag at trawsrywedd

07 Mawrth 2016

Mae rhaglenni cylchgrawn S4C wedi cael eu canmol am eu hagwedd bositif tuag at y gymuned trawsrywedd yng Nghymru.

Mae Heno a Prynhawn Da, sy'n cael ei darlledu yn fyw o stiwdio Tinopolis yn Llanelli, wedi ennill Gwobr Teledu Trawsrywedd am "eu triniaeth ragorol o westeion, pynciau a newyddion sy'n ymwneud â'r gymuned drawsrywiol."

Yn cyflwyno'r wobr heddiw (dydd Llun 7 Mawrth) roedd Jenny Anne Christine Bishop, o Transforum Manchester, a Rona Rees, trefnydd Cymdeithas Beaumont yng Nghymru, a ddywedodd fod Heno a Prynhawn Da wedi dod i’r brig "oherwydd eu hagwedd gadarnhaol a’u hymdriniaeth sensitif o faterion trawsrywiol."

Gallwch weld y wobr yn cael ei chyflwyno i'r tîm yn rhan o rhaglen Heno, ar S4C heno am 7.00, neu ar alw ar s4c.cymru

Roedd Angharad Mair, un o gyflwynwyr Heno ac uwch-gynhyrchydd y gyfres, yn falch iawn o dderbyn y wobr; "Ar Heno a Prynhawn Da rydym yn gwneud ein gorau i adlewyrchu amrywiaeth bywyd yng Nghymru ac yn rhoi sylw i bynciau sy'n destun siarad. Mae'n dda clywed canmoliaeth am y sylw rydym wedi ei roi i bynciau trawsrywedd ac rwy'n falch iawn o dderbyn y Wobr Teledu Trawsrywedd ar ran yr holl dîm."

Ymhlith yr eitemau sydd wedi ennill clod roedd sylw i Ŵyl Ffilmiau Iris; cyfweliad a thrafodaeth am y ffilm 'The Danish Girl' sy'n stori am fenyw drawsrywiol; a chanmol hefyd i'r sylw rheolaidd i digwyddiadau Pride a mudiad Stonewall.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C; “Llongyfarchiadau mawr i Heno a Prynhawn Da. Mae’r rhaglenni poblogaidd yma'n llwyfan i adlewyrchu pob agwedd o fywyd yng Nghymru a dyma pam eu bod wedi ennill y wobr hon. Da iawn i'r holl dîm am ei gwaith."

Yn 2015 fe enillodd cyfres materion cyfoes ITV Cymru Y Byd ar Bedwar y wobr am raglen am y gymuned trawsrywedd yng Nghymru.

Mae Gwobrau Teledu Trawsrywedd yn cydnabod cyflwynwyr, actorion a chynhyrchwyr positif gan wobrwyo'r rhai sydd wedi gwneud ymdrech arbennig i drin pobl drawsrywiol gydag urddas a pharch.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?