S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ymateb syfrdanol i Cantata Memoria; teyrnged i Aberfan

13 Hydref 2016

Mae teyrnged y cyfansoddwr Syr Karl Jenkins a'r prifardd Mererid Hopwood i drychineb Aberfan, Cantata Memoria: Er mwyn y plant, wedi cael ymateb syfrdanol ers y perfformiad gwefreiddiol cyntaf ar y penwythnos.

Cafodd y gwaith newydd ei berfformio am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar nos Sadwrn 8 Hydref. Yn gwylio roedd neuadd orlawn yn cynnwys aelodau o deuluoedd rhai o'r bobl fu farw yn y trychineb ar 21 Hydref 1966.

Mae’r ymateb i'r gyngerdd wedi syfrdanu Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, ers iddi gael ei dangos ar S4C ar y noson ganlynol.

Meddai Ian Jones, "Dwi wedi fy syfrdanu gan yr ymateb ry' ni wedi ei dderbyn. Mae'r ganmoliaeth i'r cyfansoddwyr a'r perfformwyr wedi dod yn un llif, ac yn gymysg â hynny, mae pobl wedi teimlo'r angen i dalu eu teyrngedau eu hunain i gymuned Aberfan.

"Mae'r gwaith o ddod a Cantata Memoria yn fyw, o'r sgwrs gyntaf un gyda Syr Karl Jenkins hyd y perfformiad gwefreiddiol ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru, wedi bod yn brofiad y gwna i fyth ei anghofio. Gyda'i gilydd mae Syr Karl Jenkins a Mererid Hopwood wedi creu trysor a fydd yn deyrnged oesol i gymuned gadarn Aberfan, ac rwy'n hynod falch bod S4C, fel comisiynwyr y gwaith, wedi bod yn rhan allweddol o greu rhywbeth sydd mor bwysig i gof cenedl."

Mi fydd perfformiad gwefreiddiol Cantata Memoria yn cael ei ddangos eto ar S4C nos Iau 20 Hydref 9.30 - ar drothwy'r dydd sy'n nodi 50 mlynedd ers y trychineb.

Mae'r darllediad unigryw yma ar gael i wylwyr ar draws y byd ar wasanaeth ar-lein rhyngwladol S4C, s4c.cymru/rhyngwladol, ynghyd â stori ddirdynnol y daith i greu'r gwaith yn y rhaglen ddogfen Aberfan: Stori'r Cantata Memoria.

Ar y llwyfan, dan arweiniad y maestro Syr Karl Jenkins, roedd rhai o brif artistiaid clasurol Cymru: y bas bariton Bryn Terfel, y soprano Elin Manahan Thomas, y delynores Catrin Finch, yr unawdydd ewffoniwm David Childs, y feiolinydd Joo Yeon Sir, cerddorfa Sinfonia Cymru a chorau cyfun o leisiau hyn ac ifanc.

Mae'r gwaith wedi cael ei ryddhau ar ffurf albwm gan Deutsche Grammophon. Roedd cyngerdd Aberfan yn gynhyrchiad ar y cyd gan Ganolfan Mileniwm Cymru a MR PRODUCER ar ran Elusen Coffáu Aberfan ac wedi'i gynhyrchu ar gyfer y teledu gan Rondo Media i'w ddarlledu ar S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?