S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Cymru yn fyw ar S4C

08 Mawrth 2017

Gyda thîm pêl-droed Cymru yn brwydro i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia, bydd S4C yn dangos gweddill gemau Cymru yn yr ymgyrch ragbrofol yn fyw, o 24 Mawrth ymlaen.

Bydd gweddill gemau Cymru ar gael i'w gweld ar deledu daearol, yn rhad ac am ddim drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny wedi i'r sianel ddod i gytundeb gyda deiliaid y drwydded swyddogol a'r prif ddarlledwyr yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, Sky Sports.

Dylan Ebenezer fydd yn arwain y tîm cyflwyno, gyda Nic Parry a Malcolm Allen yn y pwynt sylwebu, a'r cyn chwaraewyr Cymru Owain Tudur Jones a Dai Davies yn dadansoddi'r gemau. Rondo Media fydd yn cynhyrchu'r rhaglenni.

Y gêm gyntaf fydd yn cael ei dangos ar S4C yw'r un hollbwysig oddi cartref yng Ngweriniaeth Iwerddon nos Wener, 24 Mawrth.

Yng Ngrŵp rhagbrofol D, bydd Cymru hefyd yn teithio i herio Serbia ddydd Sul, 11 Mehefin, cyn gêm gartref yn erbyn Awstria ddydd Sadwrn, 2 Medi, a gêm oddi cartref ym Moldova ddydd Mawrth, 5 Medi.

Bydd tîm Chris Coleman yn wynebu taith i Georgia ddydd Gwener, 6 Hydref, cyn dod â'r ymgyrch i ben gyda gêm gartref yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ddydd Llun, 9 Hydref.

Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky, Freesat a Virgin Media ar draws y Deyrnas Unedig. Bydd gwylwyr Sky a Freesat yn gallu gwylio'r gemau mewn HD.

Dywedodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Sue Butler, "Rydym yn falch iawn mai ni yw'r unig ddarlledwr sy'n dangos gemau Cymru yn rhad ac am ddim yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.

"Mae'n bleser gallu dilyn y tîm gyda gemau byw ar S4C unwaith eto, o gofio holl gyffro gorchestion tîm Chris Coleman yn Euro 2016."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?