S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn ymuno â darlledwr o Siapan ym menter cyd-gynhyrchiad 'Y Corff'

05 Ebrill 2017

Mae S4C a'r darlledwr cyhoeddus Siapaneaidd NHK wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cydweithio ar gyfres wyddoniaeth newydd bwysig. Fe fydd 'Y Corff' yn rhoi cipolwg ffres a phellgyrhaeddol ar sut mae'r corff dynol yn gweithio.

Gwnaed y cyhoeddiad ym marchnad deledu a digidol MIPTV yn Cannes yn ne Ffrainc yr wythnos hon.

Mae'r gyfres arloesol, a fydd yn cael ei chwblhau yn ystod gwanwyn 2018, yn cyfuno gwyddoniaeth arloesol a'r dechnoleg ddelweddu ddiweddaraf UHD i ddangos sut mae ein horganau a'n celloedd yn rhyngweithio â'i gilydd mewn modd deinamig.

Mae'r gyfres - sydd yn cael ei chynhyrchu yn Siapan - yn rhoi darlun clir o sut mae rhannau gwahanol o'n cyrff yn rhyngweithio mewn ffordd y gellir ei chymharu â rhwydwaith cymdeithasol.

Fe fydd yn dangos celloedd y corff a hyd yn oed yn elfennau llai fel moleciwlau ar waith. Bydd modd gweld, er enghraifft, bod yr arennau'n gysylltiedig â rheoli pwysau gwaed a thrwy hynny yn effeithio ar hirhoedledd ein bywydau; bod esgyrn â swyddogaeth bwysig wrth arafu heneiddio; a bod y sylweddau a ryddheir o feinweoedd cyhyrau yn ysgogi organau eraill ac felly'n gallu lleddfu ar glefyd y siwgr a chlefydau'r galon.

Fe fydd 'Y Corff' yn cael ei darlledu mewn wyth rhan ar NHK ac mewn tair rhan ar S4C. Mae'r ddau ddarlledwr yn chwilio am fwy o bartneriaid cyd-gynhyrchu i ymuno ym menter y cynhyrchiad.

Dywedodd Pennaeth Dosbarthu Cynnwys S4C, Llion Iwan, "Rydym yn falch o gyhoeddi ein cyd-gynhyrchiad gyda NHK, un o'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus uchaf eu parch yn y byd. Rydym yn credu y bydd y gyfres yn denu diddordeb ledled y byd wrth gyflwyno gwybodaeth feddygol a gwyddonol arloesol mewn ffordd ddifyr, afaelgar. Nid oes lle gwell i lansio'r gyfres hon nag ym marchnad deledu a chynnwys digidol fwya'r byd yn Cannes."

Meddai Takehiro Asai Uwch Gynhyrchydd y gyfres a'r un a ysgogodd y prosiect, "Mae rhwydwaith enfawr a dirgel yn bodoli y tu mewn i'n cyrff, ac rydym yn edrych ymlaen at allu rhannu gwybodaeth newydd gyda'r byd. Mae'r gwaith ffilmio yn mynd yn dda ac rydym wrth ein bodd bod S4C wedi ymuno fel ein partner cyd-gynhyrchu cyntaf ar y gyfres hon. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw i ddangos i wylwyr bod y corff yn gweithredu mewn ffyrdd sy'n wahanol iawn i'r farn gonfensiynol amdano."

DIWEDD

Ynglŷn ag NHK

NHK yw unig ddarlledwr cyhoeddus Siapan. Wedi'i ariannu bron yn gyfan gwbl trwy ffi a godir ar gartrefi Siapan, mae ganddo enw da am raglenni diduedd o ansawdd uchel. Mae NHK yn cyrraedd tua 50 miliwn o gartrefi drwy bedair sianel ledled y wlad.

Ynglŷn ag S4C

S4C yw'r unig ddarlledwr teledu yn yr iaith Gymraeg ac mae'n cael ei hariannu gan ffi'r drwydded, ynghyd â chymorth grant uniongyrchol gan y llywodraeth a chyllid masnachol. Mae'n darlledu dros 100 awr o raglenni'r wythnos yn y Gymraeg, gydag ystod eang o raglenni amrywiol a gynhyrchir gan gwmnïau annibynnol, ynghyd â BBC Cymru ac ITV Wales. Mae cyfresi a rhaglenni S4C wedi cael eu gwerthu i ragor na 100 o wledydd a rhanbarthau ers i'r sianel gael ei sefydlu

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?