S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Deuawd anturus o Fro Ddyfi yn dod i'r brig ar Ynys Manaw

11 Mai 2017

Roedd rheswm dathlu i'r ddau ffermwr o Fro Ddyfi – Wil Hendreseifion ac Aeron Pughe – wedi iddyn nhw ennill gwobr am eu rhaglen ar S4C.

Daeth rhaglen Wil, Aeron a'r Inca, i’r brig yng nghategori Adloniant Ffeithiol yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd a gynhaliwyd yn Douglas, Ynys Manaw rhwng 3 a 5 Mai.

 

Cafodd y rhaglen ei dangos yn gyntaf ym mis Rhagfyr 2015, ac roedd yn dilyn y ddau ffarmwr ar eu hantur i gael blas ar realiti bywyd a thraddodiadau ffermwyr Inca yr Andes. Roedd y rhaglen yn agor cil y drws ar ddiwylliant cwbl wahanol, wrth i’r ddau ymgartrefu gyda theuluoedd lleol a'u helpu gyda'r defaid, alpacas a'r lamas, a chael dysgu mwy am iaith, traddodiadau a phobl Periw.

Derbyniodd Cwmni Da a Hay, a oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r rhaglen, y tlws

torch efydd mewn cyhoeddiad yn ystod Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, sy'n dathlu

ieithoedd a diwylliannau unigryw'r gwledydd a'r rhanbarthau Celtaidd ar y sgrin

ac yn y byd darlledu.

Mae Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C yn falch iawn o’r anrhydedd: “Nid taith yn unig yw'r rhaglen; mae'n antur gydag Wil ac Aeron.

"Dyma ddau ffrind sydd â pherthynas arbennig, yn adnabod eu gilydd mor dda, ac sydd â hiwmor arbennig rhyngddyn nhw. Ry' ni'n cael gweld y byd drwy eu llygaid nhw ac yn synnu ac yn rhyfeddu at y pethau bach a mawr gyda nhw ar y daith."

Mae Wil ac Aeron yn hoff o antur. Yn ogystal â'r rhaglen fuddugol, a aeth â nhw ar antur i Periw, ym mis Chwefror eleni, cawsom ddilyn y ddau gyfaill ar wibdaith o 1,500 o filltiroedd a mwy i’r Alban mewn camperfan yn y gyfres Wil ac Aeron: Taith yr Alban.

Ac yn 2013, bu'r ddau ar drip Ogledd Norwy i yrru ceirw drwy'r eira yng nghwmni'r cymunedau brodorol.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?